Miles Jupp: On I Bang
Ers i daith olaf Miles ddod i glo yn The London Palladium yn 2017, mae wedi bod yn The Full Monty ar Disney Plus, The Durrells a Why Didn’t They Ask Evans? ar ITV, yn ogystal â thoreth o benodau o New World Order gan Frankie Boyle a Have I Got News For You. Mae wedi gwneud cyfres radio arobryn ac mae wedi cyhoeddi nofel. Petai Covid heb godi ei ben, byddai wedi chwarae rhan arweiniol yn yr RSC. Hei ho. Serch hynny, mae wedi gwneud drama yn y West End ac wedi chwarae rhan Ymerawdwr Awstria ac Ewrop mewn ffilm Ridley Scott a nawr mae’n dod yma i Theatr Torch yn Aberdaugleddau!
Ac eto un diwrnod heulog yng nghanol hyn oll, yn sydyn cafodd drawiad ar yr ymennydd. Arweiniodd hyn at ddarganfod tiwmor yr un maint â thomato ceirios, ac angen dybryd i gael niwrolawdriniaeth fawr. Yn amlwg, nid yw rhywun yn dymuno gwneud ffws fawr ohono, ond mae'r profiad wedi gadael stori i'w hadrodd ac ychydig o bethau yr hoffai eu rhannu â'r ystafell. Felly dyna’n union y mae’n ei wneud yn ei sioe newydd On I Bang – stori am syndod, ofn, lwc, cariad ac ymarferwyr meddygol cymwys.
Wedi derbyn adolygiadau gwych gan The Times, The Guardian a The Telegraph, mae On I Bang gyda Miles Jupp yn un na ddylid ei golli yma yn y Torch, ac mae tocynnau yn gwerthu ar ras. Wedi’i ddyfarnu’n bedair seren a’i ddisgrifio fel “Elegantly funny, terrible English account of a tumor” gan The Guardian a phum seren gan The Arts Desk 2024, dyma berfformiad y bydd sôn amdano am fisoedd i ddod.
Ymunwch â Miles Jupp: On I Bang pan fydd yn ymweld â Theatr Torch nos Wener 10 Ionawr am 8pm. Pris tocyn: £25. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.