MIKE BUBBINS: THROWBACK
Yn ei daith ar ei sefyll unigol gyntaf erioed yn y DU, mae Mike Bubbins, seren podlediad poblogaidd The Socially Distant Sports Bar, a chomedïau teledu’r BBC Mammoth, Tourist Trap a The Unexplainers, yn rhyddhau THROWBACK yn Theatr y Torch fis Mawrth yma… Ac efallai na fydd pethau byth yr un peth eto.
Mae THROWBACK yn awr rymus, synfyfyriol, angerddol o gomedi ar ei sefylll, sy'n gwthio ffiniau, yn herio disgrifiadau taclus ac yn herio'r gynulleidfa...FEL Y DYLID EI FOD!
Mewn gwirionedd mae'n awr a hanner o straeon hynod ddoniol, cymeriadu eitha trawiadol, cân o bosib (dywedodd y bydd yn gweld sut aiff hynny), ychydig o hiraeth am yr hen ddyddiau da, ychydig o optimistiaeth am y dyddiau newydd da, a Mike yn gyffredinol yn chwerthin am fywyd a pheidio â chymryd ei hun, na dim arall, o ddifrif. Ar ôl dweud hynny, efallai y bydd, ar ryw adeg yn y sioe, yn gwylltio’n arw, boed yn y gorffennol, y presennol, neu’r dyfodol.
Felly yn y bôn mae THROWBACK yn sioe gomedi am Bubbins yn rhannu ac yn dod â'r pethau sy'n ddoniol iddo yn fyw. Wrth i gysyniadau comedi fynd, mae'n un eithaf syml, a dweud y gwir.
‘Fe wnaethant ofyn i mi wneud taith gomedi yn y DU, a elwir yn THROWBACK...ac felly fe wnes i hynny,’ meddai Mike, sydd wedi bod yn gwneud i gynulleidfaoedd i lefain chwerthin ar hyd a lled y wlad.
“Gwelais dy gomedi ar ei sefyll, a chefais fy syfrdanu gan ba mor ddoniol yr oeddet ti. Ar un adeg erfyniais am help gan fy ngwraig, oherwydd yr oeddwn yn chwerthin mor galed fel nad oeddwn yn gallu anadlu. Y broblem oedd, roedd hi'n chwerthin hyd yn oed yn galetach na fi! Ac yna edrychais o amgylch y lle, ac er bod fy llygaid yn ffrydio â dagrau o lawenydd, gallwn weld bod pawb, o bobl ifanc yn eu harddegau i bobl ganol oed, mewn sefyllfa debyg! Dylet ddod â rhybudd iechyd!" meddai John, aelod o'r gynulleidfa.
Bydd Mike Bubbins: Throwback yn ymweld â Theatr y Torch nos Wener 24 Mawrth am 8pm. Tocynnau yn £19.50. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.