PLANT YSGOL LLEOL YN YMDDANGOS AR LWYFAN GYDAG OCC

Wrth i Opera Canolbarth Cymru ymweld â Theatr y Torch y mis hwn gyda’i gynhyrchiad newydd o glasur Humperdinck Hansel and Gretel o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bydd plant ysgol lleol, sy’n aelodau o Ysgol Gelfyddydau Perfformio Limelight, hefyd yn ymuno â nhw ar y llwyfan.

Mae pawb yn gyfarwydd â stori Hansel a Gretel sy’n seiliedig ar stori dylwyth teg y Brodyr Grimm lle mae dau blentyn yn cael eu halltudio i’r goedwig hudolus gan eu mam llwglyd, rwystredig. Bydd aelodau Limelight, yr ysgol lwyfan ran amser sydd wedi’i lleoli yn Hwlffordd, yn gweld Seren, Jason, Tabitha, Faith, Caitlyn, Bella a Sophie yn ymddangos ar y llwyfan dan lygaid barcud y Cyfarwyddwr Cerdd ac Ymarferydd, Angharad Sanders.

Dywedodd Angharad, a sefydlodd ‘Limelight’ flynyddoedd yn ôl ac sydd wedi gweithio yn rhai o ganolfannau hyfforddi celfyddydau perfformio blaenllaw’r DU, Iwerddon a’r Unol Daleithiau, yn ogystal â’r West End:

“Mae’r aelodau o Ysgol Greenhill, Ysgol Uwchradd Hwlffordd a Johnson CP yn chwarae rhan y plant ensemble yn Hansel a Gretel. Heb ddatgelu gormod, nhw yw plant y pentref y mae'r wrach yn ceisio eu hudo i'w thŷ Torth Sinsir! Maen nhw wedi bod yn gweithio’n galed i ddysgu’r gerddoriaeth sy’n gymhleth ond yn clymu’n hyfryd ag arddull werin y stori.”

Mae dod ynghyd ac ymarfer ar gyfer y cynhyrchiad hwn wedi bod yn gamp fawr, ond mae aelodau ifanc Limelight wedi mwynhau’r broses.

Ychwanegodd Angharad: “Ers y Nadolig, dim ond rhyw hanner awr rydyn ni wedi’i gael bob dydd Sadwrn i ddysgu’r darn. Mae’n brosiect heriol iawn, gan fod opera nid yn unig yn newydd i nifer o’n haelodau, ond mae’r llinellau ensemble yn Gymraeg ac mae nifer o aelodau Limelight yn ddi-Gymraeg.

“Rydym hefyd yn paratoi ar gyfer ein sioe ein hunain yn y Torch ym mis Gorffennaf (bydd hon yn sioe sy’n codi arian ac ymwybyddiaeth i’r elusen leol, Sefydliad Megan’s Starr) felly rhannwyd yr ymarferion rhwng y ddwy.”

Wrth i Opera Canolbarth Cymru ddisgyn ar Theatr y Torch ar nos Iau 16 Mawrth, bydd aelodau Limelight yn cwrdd â'r cast proffesiynol ar ddiwrnod y perfformiad ei hun ac yn cael eu hymarfer cyntaf ymhlith y sêr.

Wrth gloi meddai Angharad: “Byddan nhw’n cael cyfle gwych i ganu gyda rhai o berfformwyr a cherddorion anhygoel Cymru.”

Bydd Hansel and Gretel yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Iau 16 Mawrth am 7pm. Tocynnau’n £22.50, £20.50 consesiwn a £9.00 ar gyfer rheiny o dan. Mae’r cynhyrchiad yn addas i blant dros 8 mlwydd oed. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.