OPERA CANOLBARTH CYMRU - HANSEL A GRETEL
Bydd Opera Canolbarth Cymru yn dychwelyd i’r prif lwyfan ar daith y gwanwyn hwn gyda’u cynhyrchiad newydd o'r clasur o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan Humperdinck, Hansel a Gretel a bydd yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Iau 16 Mawrth am 7pm. Bydd y perfformiad hefyd yn cynnwys plant o Ysgol Berfformio’r Celfyddydau Limelight a fydd yn ymuno ag Opera Canolbarth Cymru ar lwyfan.
Yn seiliedig ar stori dylwyth teg y Brodyr Grimm, mae dau blentyn yn cael eu halltudio i'r goedwig hud gan eu mam lwglyd, rwystredig. Pan ddaw eu tad adref a chlywed lle mae'r plant, mae'n datgelu i'w mam wir arswyd y Wrach. Yn y cyfamser, allan yn y coed, mae’r ddau blentyn yn mynd ar goll cyn crwydro i grafangau’r Wrach sy’n benderfynol o’u pesgi a’u troi’n ddanteithion sinsir. Ar y funud olaf mae'r Wrach yn cael ei thwyllo, a datgelir mai plant sy'n aros i gael dod yn ôl yn fyw yw'r ffigyrau sinsir o amgylch tŷ'r Wrach.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd Opera Canolbarth Cymru, Jonathan Lyness mai Hansel a Gretel yw gwaith pwysicaf Humperdinck. Ychwanegodd: “ Yn wreiddiol, roedd yn osodiad syml i blant o bedair cân werin o chwedl Grimm, ymestynnodd y cyfansoddwr y gwaith i'r opera gyflawn a adwaenir heddiw. Mae byd sain y gwaith yn unigryw, yn llawn telynegiaeth gyfoethog ac apêl felodaidd sy'n clymu'r gerddoriaeth yn uniongyrchol â chanu gwerin, lle daw anturiaethau'r plant yn fyw. Cyhoeddodd y cyfansoddwr Richard Strauss bod yr opera yn gampwaith, ac ef a arweiniodd ei pherfformiad cyntaf ym 1893. Mae’r gwaith wedi bod yn un o gonglfeini tai opera ledled y byd ers hynny.”
Mae’r cynhyrchiad newydd hwn o Hansel a Gretel, y cyntaf erioed gan Opera Canolbarth Cymru, wedi’i gyfarwyddo a’i gynllunio gan Gyfarwyddwr Artistig OCC, Richard Studer. Caiff ei chanu yng nghyfieithiad Saesneg David Pountney, gyda chast o wyth o gantorion proffesiynol.
Arweinir sgôr gerddorfaol gyfoethog ac eferw Humperdinck, a berfformir gan bartner cerddorfaol OCC Ensemble Cymru, gan Jonathan Lyness sydd hefyd wedi creu trefniant cerddorfaol newydd o’r gwaith yn arbennig ar gyfer y cynhyrchiad hwn.
Bydd Hansel and Gretel yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Iau 16 Mawrth am 7pm. Tocynnau’n £22.50/ £20.50 consesiwn / £9.00 U26 ac mae’n addas ar gyfer plant 8 oed a thros. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.