MICHAELA HOLLYFIELD: TIME AND TIDE

Bydd Michaela Hollyfield, artist o Abergwaun, yn cyflwyno ei harddangosfa newydd o’r enw Time and Tide yn Oriel Joanna Field yn Theatr y Torch fis Gorffennaf hwn.

Mae gweithiau Michaela, sy’n bennaf mewn olew ar gynfas, yn gyfuniad o sawl corff o waith a’i gwaith diweddaraf. Yn ystod y pandemig, cafodd Michaela ei denu at weithio'n fwy cynrychioliadol, ac arweiniodd amwysedd ac ansicrwydd bywyd yn ystod y pandemig iddi fod eisiau gafael ar fwy i ffurfio a chynrychiolaeth.

“Cefais fy hun yn dychwelyd i fyd natur, yn arsylwi ar yr awyr yn newid, ac yn dod o hyd i gysur mewn ffurf, yn awyddus i ddathlu diogelwch natur a thirwedd unwaith yn rhagor. Fe welwch hyn yn cael ei adlewyrchu yn rhywfaint o’r gwaith sy’n cael ei arddangos yma ochr yn ochr â’m gwaith cyn-bandemig mwy haniaethol,” esboniodd Michaela.

Mae ei gwaith yn ymgorffori motiffau sy'n cynrychioli trosiad symbolaidd iddi a'r broses o beintio; yn amrywio o’r goedwig, y llwynog, y cwch, yr Adeilad Gwylfa (ger Goleudy Strumble Head), ac yn fwyaf diweddar Capel y Santes Non. Mae tirwedd ei chyffiniau ac arfordir Sir Benfro, hefyd yn amlwg yn ei gwaith.

“O fewn nifer o’m paentiadau, mae’r ffordd yr wyf yn paentio yn cynrychioli taith. Rwy'n mynd at y rhan fwyaf o'm cynfasau mewn ffordd fympwyol, gan eu staenio â golchiadau tenau o olew a gwneud marciau fel y credaf sydd eu hangen. Ar ôl y rhuthr hwn o ryddid a mynegiant, o ystumiau a gwneud marciau, byddaf yna’n cymryd peth amser i edrych ar yr hyn y mae'r paentiad yn ei wneud, a sut mae ymateb i'r sgwrs weledol yr wyf wedi'i dechrau,” ychwanegodd Michaela.

Graddiodd Michaela o Ysgol Gelf Aberystwyth yn 2017 gydag MA mewn Celfyddyd Gain ac mae’n arddangos ac yn gwerthu ei gwaith ar-lein gyda New Blood Art. Bu’n artist preswyl yn Oriel y Parc ym mis Medi 2019 a chynhyrchodd gorff o waith a ddylanwadwyd arni gan Stori Santes Non a Chapel y Santes Non. Mae ychydig o’r gwaith hwn wedi’i gynnwys yn yr arddangosfa hon.

Fe’i gwahoddwyd i arddangos yn ‘A Celebration of Welsh Contemporary Painters,’ Hefyd yn ddiweddar cynhaliodd sioe unigol o’r enw ‘Taith’, y ddwy yn Oriel y Parc. Fe’i gwahoddwyd hefyd i arddangos yn Arddangosfa Flynyddol Ail ar Bymtheg Y Clas ar Wy yn gynharach eleni yn ogystal ag arddangos mewn orielau sy’n lleol iddi.

Caiff ei dylanwadu gan waith yr arlunwyr symbolaidd Ferdinand Hodler, Edward Munch a’r peintwyr mynegiadol haniaethol yn enwedig Rothko, Frankenthaler, a’r peintiwr cyfoes Peter Doig. 

Caiff Time and Tide ei arddangos o ddydd Gwener 1 i ddydd Gwener 29 Gorffennaf yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, ac mae modd ei weld pan fydd y theatr ar agor. Mae mynediad am ddim i Oriel Joanna Field. 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.