Macbeth yn Cludo Cynulleidfaoedd i Fyd Hudolus Trasiedi yn y Torch

Ar daith o amgylch Cymru drwy gydol mis Mawrth, mae Opera Canolbarth Cymru yn cyflwyno ei gynhyrchiad cyntaf erioed o Macbeth Verdi fel penllanw ei dymor Shakespeare. Wrth ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Iau 21 Mawrth, bydd aelodau’r gynulleidfa yn profi un o ddramâu gorau Shakespeare ac un o operâu mwyaf Verdi o drasiedi, uchelgais a chynllwyn goruwchnaturiol.

Dewch i fwynhau stori afaelgar am bŵer, ystryw a dirywiad trasig wrth i Macbeth, cadfridog dewr, ildio i berswâd ei wraig, sy'n arwain at ymgais ddidostur i gipio coron yr Alban. Sgôr odidog Verdi, gyda'i alawon ysgubol a'i harmonïau cymhleth, sy'n gyrru'r naratif seicolegol cyffrous, a chyflwynir tro modern yn Act 4 gyda chorws hudolus o ffoaduriaid.

Canir yr opera yn Saesneg, i gyfeiliant Ensemble Cymru a chyda chast mawr, wedi'i ategu gan gorysau cymunedol. Mae Opera Canolbarth Cymru yn cyflwyno ei gynhyrchiad cyntaf erioed o Macbeth gan Verdi ac yn edrych ymlaen ymweld â’r Torch.

Mae'r opera'n cynnwys cast enfawr o 17 o gantorion proffesiynol, dan arweiniad y bariton o Ganada Jean-Kristof Bouton fel Macbeth, y soprano Gymreig Mari Wyn Williams fel yr Arglwyddes Macbeth, y tenor Cymreig Robyn Lyn Evans fel Macduff a'r baswr-bariton Cymreig Emyr Wyn Jones fel Banquo. Yn ôl yr arfer, bydd y rhagorol Ensemble Cymru yn ymuno yn y pwll i berfformio trefniant cerddorfaol newydd yr arweinydd, Jonathan Lyness o'r opera.

Mae'r Cyfarwyddwr Cerdd a'r Arweinydd Jonathan Lyness yn mynegi ei frwdfrydedd ynghylch dod â Macbeth Verdi ar Daith PrifLwyfannau:

Dywedodd: “O blith tair opera Shakespeare Verdi, Macbeth yw'r un y credaf y bydd yn ennyn yr ymateb cryfaf gan gynulleidfaoedd heddiw, gyda'i cherddoriaeth hynod bwerus a chyffrous ac oherwydd y themâu cyfoes sydd i'w gweld trwy'r ddrama oesol hon sy'n ymwneud â thrachwant dirfodol cadfridog milwrol sy'n awchu am bŵer.”

Caiff Macbeth Verdi gan Opera Canolbarth Cymru ei pherfformio yn Theatr Torch ar nos Iau 21 Mawrth am 7.30pm. Pris tocyn: Llawn £23. Consesiynau: £21 / Myfryiwr ac o dan U21: £9. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.