Cynhyrchiad newydd sbon o un o drasiedïau enwocaf Shakespeare a gafodd ganmoliaeth fawr

David Tennant (Doctor Who, Broadchurch) a Cush Jumbo (The Good Wife, Criminal Record) fydd yn arwain cast selar mewn cynhyrchiad newydd ‘swynol’ (★★★★★ Daily Telegraph) o MACBETH gan Shakespeare, wedi ei ffilmio’n fyw yn y Donmar Warehouse yn Llundain, yn arbennig ar gyfer y sgrin fawr a gellir ei weld yn Theatr Torch fis Chwefror a Mawrth.

Mae agosatrwydd cythryblus a gweithredu creulon yn cyfuno'n gyflym wrth i Max Webster (Life of PiHenry V) gyfarwyddo’r stori drasig o gariad, llofruddiaeth, a phŵer natur o adnewyddu. Gyda llwyfaniad ‘full of wolfish imagination and alarming surprise’ (★★★★★ The Guardian), mae sain amgylchynol y sinema 5.1 yn gosod y gynulleidfa ym meddyliau'r Macbeths, gan ofyn a ydyn ni'n wirioneddol gyfrifol am ein gweithredoedd?

Ar ôl cael ei chwarae i theatrau y gwerthwyd pob tocyn yn y West End, mae’r cynhyrchiad hwn wedi’i ffilmio’n arbennig ar gyfer sinemâu, gydag onglau camera lluosog a chlos. Fel testun Maes Llafur TGAU, mae’r cynhyrchiad arloesol hwn (addas ar gyfer 12A) yn gyflwyniad hygyrch perffaith i waith Shakespeare.

Mae (★★★★ The Times) yn dweud bod ‘David Tennant is simply hypnotic’ sy’n chwarae rhan Macbeth am y tro cyntaf tra bod Cush Jumbo yn ‘remarkably compelling’ (★★★★ Theatre Weekly) fel Lady Macbeth, yn dilyn ei pherfformiadau clodwiw yn Hamlet a Julius Ceasar.

Bydd Macbeth: David Tennant & Cush Jumbo yn cael ei sgrinio yn Theatr Torch ar ddydd Sul 9 Chwefror am 2pm a dydd Sadwrn 1 Mawrth am 7pm. Pris tocyn: Oedolyn: £15. Gostyngiad: £13 a Dan 26: £8.50. Gradd: 12A. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.