CARU EICH THEATR LEOL
Theatr y Torch yn ymuno â’r cynnig tocyn 2-am-1 mwyaf erioed i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol trwy ymgyrch Caru Eich Theatr Leol UK Theatre
- Mae Theatr y Torch wedi ymuno â dros 100 o theatrau ar draws y DU ar gyfer yr ymgyrch newydd, y mae’r Loteri Genedlaethol yn darparu hyd at £2 filiwn ar ei chyfer i roi cymhorthdal i dros 150,000 o docynnau ledled y DU
- Drwy gydol mis Mawrth, gall chwaraewyr y Loteri Genedlaethol gael tocynnau theatr 2-am-1 ar gyfer perfformiadau o sioeau gan gynnwys One Night in Dublin, Thank ABBA for the Music a Shirley Valentine.
- Gyda chefnogaeth y cyflwynydd teledu, cantores Girls Aloud a seren y llwyfan Kimberley Walsh, mae'r ymgyrch yn annog y cyhoedd i gefnogi theatrau lleol wrth iddynt wella o'r pandemig.
- Gellir prynu tocynnau sydd nawr ar gael o loveyourlocaltheatre.com
Mae Theatr y DU wedi lansio Caru Eich Theatr Leol, ymgyrch newydd yn annog y cyhoedd i gefnogi eu theatrau lleol wrth iddynt ddechrau gwella o effaith Covid. Mae Theatr Torch Aberdaugleddau wedi ymuno â dros 100 o theatrau ar draws y DU i gynnig y cynnig tocyn 2-am-1 mwyaf erioed i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n mynychu sioe yn ystod mis Mawrth.
Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei rhedeg gan gorff aelodaeth theatr blaenllaw Theatr y DU ac a wnaed yn bosibl gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol, yn darparu hyd at £2 filiwn i roi cymhorthdal i dros 150,000 o docynnau ar draws y DU. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn cael cynnig y cyfle i brynu un tocyn a chael un arall am ddim ar gyfer sioeau sy’n cymryd rhan fel diolch am y £30 miliwn y maent yn ei godi bob wythnos ar gyfer Achosion Da, gan gynnwys cefnogaeth i’r celfyddydau perfformio a theatrau yn ystod y pandemig.
O sioeau cerdd clasurol a dramâu annwyl i sioeau teuluol, comedi, dawns a mwy, mae Caru Eich Theatr Leol wedi dod â theatrau lleol o bob rhan o’r DU ynghyd i roi cyfle i chwaraewyr brofi hud adloniant byw am lai y gwanwyn hwn, tra’n rhoi rhywbeth yn ôl i'w cymunedau adloniant lleol.
Yn ogystal â’r gefnogaeth gref gan theatrau ledled y DU, mae Caru Eich Theatr Leol hefyd yn cael ei gefnogi gan y cyflwynydd teledu, y gantores a seren Girls Aloud, Kimberley Walsh. Mae hi wedi mwynhau perfformio mewn theatrau a lleoliadau adloniant ar draws y DU, y mae llawer ohonynt wedi derbyn cyllid gan y Loteri Genedlaethol.
Meddai Stephanie Sirr, Llywydd Theatr y DU: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r Loteri Genedlaethol ar Caru Eich Theatr Leol, y tro cyntaf i aelodau Theatr y DU ar draws y wlad uno ar gyfer hyrwyddiad tocynnau o’r maint hwn. Dylem fod yn hynod falch yn y wlad hon fod gennym ystod mor eang, bywiog ac amrywiol o theatrau rhanbarthol, sydd oll yn chwarae rhan hanfodol yn nhirwedd theatr y DU a thu hwnt. Yn dilyn dwy flynedd mor gythryblus, rydym am weiddi am y ffaith bod theatrau’n agor ac yn barod i wobrwyo cynulleidfaoedd am eu hamynedd a’u teyrngarwch - dewch i’ch theatr leol a’u helpu i barhau i wneud gwaith creadigol gwych!”
Meddai Kimberley Walsh, cyflwynydd Teledu, Cantores Girls Aloud a seren y llwyfan: “Rydym mor freintiedig i gael cymaint o theatrau a lleoliadau adloniant anhygoel r draws y DU. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i berfformio mewn nifer ohonynt. Heb ein theatrau lleol, byddai wyneb adloniant y DU yn edrych yn wahanol iawn ac mae’n anhygoel bod y Loteri Genedlaethol yn darparu £2 filiwn i’w cefnogi. Cafodd y diwydiant adloniant ei effeithio’n arbennig gan y pandemig, a dyna pam mae’r ymgyrch Caru Eich Theatr Leol mor bwysig i gefnogi eu hadferiad.”
Ychwanegodd Nigel Railton, Prif Weithredwr y Loteri Cenedlaethol a gweithredwr Camelot: “Mae diwydiant adloniant y DU gyda’r gorau yn y byd diolch i’r amrywiaeth enfawr o leoliadau a phrosiectau ar draws y pedair gwlad. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn yr wythnos i helpu i ariannu Achosion Da, y mae llawer ohonynt yn gorwedd yn y diwydiant adloniant. Mae’r Loteri Genedlaethol yn falch o fod wedi ymuno a Theatr y DU i lansio’r ymgyrch Caru Eich Theatr Leol, gan roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar theatrau lleol i fynd ar y llwybr i adferiad yn dilyn y pandemig, tra’n dweud diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sydd wedi helpu i gefnogi nifer o theatrau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.”
Mae hyrwyddiad Caru Eich Theatr Leol ar gael i unrhyw un sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol ac yn meddu ar docyn Loteri Genedlaethol. O'r 1af o Chwefror, gall chwaraewyr brynu tocynnau mewn perfformiadau sydd ar gael yn ystod mis Mawrth. Am fanylion llawn am yr holl sioeau theatr sydd ar gael yn arlwy Theatr y Torch, cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.