Llwyddiant i Sesiynau Cyfnewid Dillad yn y Torch
Yng ngwanwyn 2023, cynhaliodd Theatr Torch ei digwyddiad Cyfnewid Dillad cyntaf yn y theatr yn Aberdaugleddau. Ers hynny, mae ei anturiaethau ailgylchu ac uwchgylchu wedi cael eu cynnal bob deufis ac maent wedi mynd o nerth i nerth.
Mae digwyddiadau Cyfnewid Dillad, y mae'r Torch hefyd yn annog defnyddwyr i'w gweld fel Llyfrgell Ddillad, yn gyfle i bobl ddod â'u dillad glân, diangen i eraill eu cymryd. Maent yn dda i'r amgylchedd ac yn dda i'ch waled. Gwahoddir pobl i bori drwy’r dillad yn eu hamser eu hunain ac mae’r cyfan yn digwydd o dan yr un to mewn awyrgylch hamddenol.
“Dechreuodd y cyfan mewn ymateb i ffilm o’r enw Fashion Reimagined a oedd yn archwilio sut i wneud ffasiwn yn gynaliadwy. Mae’n archwilio effaith ffasiwn cyflym ar ein planed a’i hadnoddau,” esboniodd Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned Theatr Torch.
Ychwanegodd: “Rydym yn ffodus iawn bod ein sesiynau Cyfnewid Dillad yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd. Ers ein digwyddiad cyntaf, rydym wedi bod yn ffodus i weld mwy o bobl yn mynychu bob tro, ac fel arfer rydym yn gweld rhwng 20 a 30 o bobl fesul digwyddiad gyda’n digwyddiad diweddaraf yn gweld 40 o bobl yn bresennol! Felly rydyn ni wedi cefnogi bron i 400 o bobl yn eu hymdrechion i fod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd.”
Cyflwynir amrywiaeth o ddillad yn Oriel Joanna Field Theatr Torch a gwahoddir pobl i bori trwy’r dillad a hefyd y gwaith celf sydd yno.
“Rydym fel arfer yn chwarae rhywfaint o gerddoriaeth ac yn cynnig sgwrs (yn rhannu cyngor ar ffasiwn ac yn rhoi anogaeth) trwy ein tîm cyfeillgar yma yn Torch a’n gwirfoddolwyr. Gallwch ddod ag eitemau rydych chi am eu cyfnewid allan o'ch cwpwrdd dillad, neu ddim byd o gwbl. Rydyn ni'n eich gwahodd chi i edrych trwy'r hyn sydd ar ein rheiliau neu ein byrddau a chymryd beth bynnag rydych chi ei eisiau. Mae’r dillad i gyd yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i chi aros am ddiod yn ein ciosg, rhoi rhodd yn un o’n bwcedi neu ddefnyddio ein gorsaf rhoddion yng nghyntedd y theatr,” esboniodd Tim.
Mae'r digwyddiadau hyn yn helpu'r amgylchedd trwy ganiatáu i chi roi eich dillad rydych chi'n eu caru i bobl eraill ac osgoi eu hanfon i safleoedd tirlenwi - y cyfan mae'r Torch yn ei ofyn yw eu bod yn lân a heb eu difrodi. Wrth uwchgylchu ein dillad mae llai o ddibyniaeth ar brynu rhai newydd, ac o’r herwydd yn cael llai o effaith ar ddefnyddio adnoddau cyfyngedig y blaned.
Cynhelir y digwyddiadau Cyfnewid Dillad nesaf ddydd Sadwrn 25 Ionawr a dydd Sadwrn 29 Mawrth. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa Docynnau Theatr Torch ar 01646 695267.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.