Lle Cynnes yn y Torch: Gweithgareddau Drama yn y Gymraeg

Ddydd Gwener hanner tymor, bydd Elena yn cynnal gweithgaredd drama deuluol Cymraeg AM DDIM yma yn y Torch fel rhan o gynllun Lle Cynnes, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd y sesiwn yn dechrau am 1pm. Aeth Anwen i ddarganfod mwy.

Felly, byddi di’n cynnal gwersi drama Cymraeg am ddim yma yn y Torch, dyweda ychydig wrthym am yr hyn y gall pobl ei ddisgwyl.

Wel, gall pobl ddisgwyl cael tipyn o hwyl. Mae drama yn ymwneud â chael hwyl, defnyddio'ch dychymyg a chwarae. Byddwn yn archwilio sgiliau dyfeisio, cymeriadau, defnyddio ein cyrff i greu cymeriad ac adrodd straeon. Efallai y byddwn hyd yn oed yn archwilio rhai cymeriadau Cymraeg enwog o straeon fel Ysbaddaden, Olwen a Pwyll o'r wyth anhygoel!

Dyweda ychydig wrthym am dy gefndir ym myd theatr a beth wyt ti’n ei wneud?

Rwyf wedi gweithio yn y theatr a'r celfyddydau ers 10 mlynedd. Dechreuais berfformio yn 10 oed yn gyntaf gyda chymdeithas ddrama amatur agos yn y Bermo, gogledd Cymru. Yna ers graddio rwyf wedi gweithio i gwmnïau fel WNO, Theatr y Sherman, Warwick Castle mewn cynyrchiadau awyr agored o Midsummer Night's Dream a Wars of the Roses. Rwyf hefyd wedi gweithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol a chyfarwyddwr symud.

Pwy neu beth sy'n ysbrydoli dy greadigrwydd ar y llwyfan?

Rwy'n cael fy ysbrydoli gan gymaint o bobl greadigol anhygoel fel ei bod hi'n anodd iawn dewis un neu ddau yn unig! Ond dw i wastad wedi bod wrth fy modd gyda gwaith Frantic Assembly gan fy mod i wir yn mwynhau sut maen nhw’n asio corfforoldeb eu gwaith gyda’r sgript ac adrodd straeon – mae’r ddau bron yn dod yn un! Rwyf hefyd yn cael fy ysbrydoli gan y bobl greadigol anhygoel yma yng Nghymru. Mae gennym ni dalent benywaidd anhygoel, fel Chelsey Gillard, Francesca Goodridge a Kate Wasserberg, alla i ddim aros i weld beth fyddan nhw i gyd yn ei wneud nesaf.

Mae rhai pobl yn mynd yn bryderus iawn pan fydd pobl yn dweud y gair ‘drama’, ond bydd y sesiynau hyn yn gwneud i bobl deimlo’n gartrefol oni fyddan nhw?

Rwy’n deall yn iawn sut y gallech chi deimlo’n nerfus, ond mae drama, a dylai fod, bob amser yn ofod diogel i archwilio’ch dychymyg a straeon a sut rydych chi’n mynegi eich hun mewn ffordd chwareus a hwyliog.

Wyt ti’n meddwl bod angen gwersi drama Cymraeg yma yn Sir Benfro?

Mae angen sesiynau Cymraeg ym mhobman. Mae’r Gymraeg ei hun yn rhywbeth creadigol, ac mae mor bwysig ein bod ni’n parhau i’w lleisio a rhoi lle iddi mewn lleoliadau creadigol, fel ein bod ni’n caniatáu i Gymry archwilio eu creadigrwydd yn eu hiaith eu hunain, boed os ydyw’n iaith gyntaf i chi neu rydych chi’n dysgu.

A pha mor bwysig wyt ti’n meddwl yw'r Gymraeg yn y celfyddydau yma yng Nghymru?

Mae gan Gymru hanes gyfoethog o adrodd straeon ac mae gennym sgil o drosglwyddo a rhannu’r straeon hyn. Dyna pam y dylai'r Gymraeg fod yn rhan o'n theatr ac adrodd straeon.

Os oes rhywun am fod yn actor neu actores, sut maen nhw'n mynd ati?

Nid oes ‘na un ffordd, ond mae cymryd rhan mewn clybiau drama lleol yn ffordd wych o ddechrau adeiladu eich hyder a gweithio ar eich crefft. Ochr yn ochr â hyn, mae gwylio’r theatr ei hun yn ffordd wych o ddysgu, ac nid yw hyn yn golygu mynd yr holl ffordd i fyny i Lundain drwy’r amser. Mae cysylltu â’ch theatr leol yn ffordd wych o archwilio’r theatr!

Beth yw’r cynhyrchiad theatr Gymraeg orau i ti ei weld a pham?

Mae ‘na bethau cyffrous yn digwydd ym myd y theatr Gymraeg, ond pe bai’n rhaid i mi ddewis un, fy ffefryn fyddai cynhyrchiad Theatr Genedlaethol o ‘Gwlad yr Asyn’ yma yng ngorllewin Cymru!

Wyt ti’n dal i fynd yn nerfus pan fyddi di’n perfformio ar y llwyfan a sut wyt ti’n setlo dy nerfau?

Rwy’n bendant yn dal i deimlo’n nerfus, ac mae dysgu cofleidio’r teimlad hwnnw a dod o hyd i ffyrdd o harneisio’r teimlad hwnnw o nerfusrwydd a chyffro yn rhan o’m cariad at berfformiad. Yr eiliadau hynny sy'n ein helpu i dyfu a gwneud i ni deimlo'n ddewr, a pho fwyaf y gwnewch hynny y mwyaf y sylweddolwch y gall y nerfau hynny fod yn beth da iawn. Pryd bynnag dw i'n cael y teimladau nerfus yna, dw i'n atgoffa fy hun i gymryd rhai anadliadau araf, a bod gwneud pethau newydd fel sioeau neu brofiadau neu gwrdd â phobl newydd yn gallu bod yn beth da iawn.

Wyt ti’n gallu cofio dy dro cyntaf erioed ar y llwyfan?

Y tro cyntaf i mi gofio bod ar y llwyfan oedd ar lwyfan yr Urdd lle roeddwn i'n canu "Dau Gi Bach" ac roeddwn i mor nerfus. Ni ddaeth yr un gair allan o'm ceg, ac o'r diwedd trodd y pianydd at y gynulleidfa a dweud "wel dwi'n siŵr os gallen ni fod wedi ei chlywed fe fyddai wedi bod yn hyfryd". Diolch byth, rydw i wedi dod ychydig yn well am reoli fy nerfau.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.