LIZZIE TOBIN
Mae Lizzie Tobin, sy’n wreiddiol o Newcastle, wedi bod yn byw yn Sir Benfro ers 2016 a hynny ar ôl ymweld â gwyliau haf Freshwater West am dros ddeugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n byw yn Sbaen a’r Eidal.
Yn yr arddangosfa hon – ‘Tir, Arfordir, Sir Benfro a Thu Hwnt’, mae Lizzie wedi cymryd ei hysbrydoliaeth o’r byd o’i chwmpas. Mae’n cynnwys trefi Sir Benfro yn ogystal â Bryste, Athen a Llundain.
Dywedodd Lizzie wrthym: “Rwy'n arbennig o hoff o dynnu sylw at yr harddwch mewn amgylcheddau trefol y gellir eu hanwybyddu oherwydd yr holl harddwch naturiol mewn mannau eraill yr ydym weithiau'n eu cymryd yn ganiataol. Coeden yn erbyn adeilad yn y gaeaf er enghraifft neu’r patrymau sydd yn cael eu gadael yn y tywod pan fydd y llanw allan.”
Mae hi'n mynd ymlaen i ddweud: “Rydw i bob amser wedi peintio. Tra oeddwn yn Sbaen fe wnes i beintio dyfrlliwiau gan eu bod yn hawdd cael gafael arnyn nhw gyda phlentyn bach a phartner i ofalu amdanynt. Pan symudais i Sir Benfro cofrestrais ar gwrs Celf gyda Dysgu Gydol Oes Sir Benfro a bûm yn ffodus i ddod o hyd i diwtor ysbrydoledig a gyflwynodd i mi olewau ac acryligau nes i mi gael fy arddangosfa unigol gyntaf yn Oriel VC yn Hwlffordd. Yna fe wnes i fynd ymlaen i astudio yng Ngholeg Celf Caerfyrddin lle datblygais fy ngwaith. Cefais fy nghyflwyno i gelf ddigidol ac mae gennyf bellach gasgliad helaeth o ddarluniau digidol yn amlygu fy mhortffolio. Efallai oherwydd fy amlygiad i olau'r haul yn Sbaen fy mod yn paentio mewn lliwiau bywiog iawn a chyda fy olewau ac acryligau gosodaf y paent ymlaen yn drwchus gyda chyllell balet gan greu effaith sydd bron yn 3D. Rwy’n gweld bod y palet digidol wedi addasu’n hawdd i’r defnydd bywiog o liw, ond mewn rhai o’m gweithiau hwyrach rwyf wedi tynhau hwn ychydig.”
Mae arddangosfeydd unigol blaenorol Lizzie hyd yma yn cynnwys; Oriel y Parc Dewi Sant ac Oriel Stryd y Frenhines yng Nghastell-nedd. Mae hi’n cyfrannu’n rheolaidd at Oriel Q yn Arberth lle mae hi hefyd yn aelod o’r pwyllgor ac yn wirfoddolwr.
Mae Lizzie yn gwhaodd pawb “i fwynhau fy mhaentiadau, a gobeithio y gallaf rannu rhywfaint o fy ‘ngweledigaeth’ gyda chi.”
Mae’r arddangosfa am ddim i’w gweld yn Oriel Johanna Field drwy gydol mis Mehefin pan fydd y Swyddfa Docynnau ar agor – dydd Mawrth i ddydd Sadwrn 11.00am i 8.00pm ac ar ddydd Sul un awr cyn dechrau’r digwyddiadau tan 8:00pm.
Llun isod: 'Harbwr Dinbych y Pysgod 11'
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.