LIONEL - THE MUSIC OF LIONEL RICHIE
Bydd caneuon megis ‘Dancing On The Ceiling’, ‘Hello’, ‘Three Times A Lady’, ‘Easy’, ‘All Night Long’ a nifer helaeth o rai eraill yn cael eu hadleisio o'r toeon yn Theatr y Torch fis Mawrth hwn wrth i fand teyrneged Lionel – The Music of Lionel Richie ddod i sir Benfro. Mae tocynnau’n gwerthu’n gyflym ar gyfer y sioe boblogaidd hon sy’n dathlu cerddoriaeth Lionel Richie a’r Commodores.
Yn dilyn ei ymddangosiadau gyda Lionel Richie ei hun ar ‘Sunday Night At The Palladium’ ar ITV a ‘The Graham Norton Show’ ar y BBC, Malcolm Pitt fydd yn cyflwyno perfformiad pwerus a syfrdanol yn y sioe bwerus hon. Mae’r cynhyrchiad pum seren hwn sydd wedi ennill gwobrau, hefyd yn cynnwys rhestr serol o gerddorion o’r radd flaenaf gan gynnwys y cyfarwyddwr cerdd, Jonny Miller o Talon.
Caiff Lionel – The Music of Lionel Richie ei pherfformio yn Theatr y Torch ar ddydd Gwener 22 Mawrth am 7.30pm. Pris tocyn: £25. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.