LILIES ON THE LAND

Bydd Lilies on the Land yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Mercher 26 Hydref. Fel darn gwirioneddol ryfeddol a phefriol o theatr, bydd yn dathlu pennod ryfeddol yn hanes Prydain - Byddin Tir Merched yr Ail Ryfel Byd.

Mae’r straeon gafaelgar ond swynol hyn yn olrhain teithiau personol pedair menyw sy’n cofrestru i fod yn Ferched y Tir, yn benderfynol o weithio oriau diddiwedd, torcalonnus ar ffermydd ar draws y wlad mewn ymgais i wneud eu gorau dros ymdrech y rhyfel.

Ond sut y bydd y merched hyn, sy’n hanu o bob math o gefndiroedd, wedi’u rhwygo oddi wrth eu teuluoedd ac yn amddifad o bob cysur cartref sylfaenol, yn delio nid yn unig â chaledi bywyd ffermio a phwysau rhyfel, ond hefyd gyda bod ar y tu allan mewn amgylchiadau newydd? Efallai mai dillad gwaith yn llawn llygod a rholiau toiled yn disgyn o’r awyr yw’r union beth sydd eu hangen i’r merched hyn gyd-dynnu…

Mae'r ddrama, a gefnogir gan ddefnyddio arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Lloegr, yn seiliedig ar gannoedd o lythyrau a chyfweliadau gan y Merched Tir gwreiddiol. Mae’n bortread dadlennol, doniol, hynod deimladwy a chyfareddol o rai o arwyr mwyaf di-glod Prydain.

Wedi’i gyfarwyddo gan Amy Astley a Duffy o Gwmni Theatr Apollo, mae’r cynhyrchiad yn syml iawn yn un na ellir ei golli – dyma theatr ar ei mwyaf cofiadwy.

Bydd y cynhyrchiad hwn yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydeinig integredig trwy gydol y perfformiad bydd yn cynnwys capsiynau.

Bydd Lilies on the Land yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Mercher 26 Hydref am 7.30pm. Tocynnau’n £17 / £15.50 consesiwn. I archebu tocynnau, ewch i www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267. I ddarganfod mwy neu i archebu, e-bostiwch boxoffice@torchtheatre.co.uk.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.