Learning to Fly Q&A

Ddydd Mercher 28 Chwefror bydd James Rowland yn dod â’i sioe un-dyn Learning to Fly i lwyfan y Torch. Cafodd Anwen sgwrs gydag e am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl.

Mae Learning to Fly yn swnio'n ddiddorol iawn ac ychydig yn wahanol. Dyweda ychydig wrthym am y sioe.

Helo! Mae Learning to Fly yn stori dod i oed, dw i’n meddwl ei bod hi’n stori ddyrchafol am gyfeillgarwch annhebygol wnes i gyda’r hen wraig frawychus oedd yn gofalu amdana’ i fel plentyn – mae’n ymwneud â chariad a thyfu i fyny a cherddoriaeth.

O ble wyt ti’n cael dy syniadau i greu cynhyrchiad o'r fath?

Rwy'n ceisio creu straeon sy'n chwedlau cyffrous, sy'n seiliedig ar y pethau gwyllt sydd wedi digwydd yn fy mywyd a'u troi'n rhywbeth sydd, gobeithio, yn brydferth a diddorol i’r gynulleidfa.

Beth yw dy hoff ran ynddi a pham?

RHYBUDD SBWYLO. Byddaf yn gwneud dawns ddeongliadol fer (comedi) dros ben jôc estynedig tua thraean o'r ffordd drwyddi sy'n eithaf heriol a bob amser yn dipyn cyffrous i'w berfformio.

Pa fath o gynulleidfa wyt ti’n gobeithio ei denu?

Pawb! Os ydych chi’n mynd i’r theatr yn gyson, gobeithio bod digon i’ch diddori mewn sioe sydd wedi teithio cyhyd i gynifer o lefydd ac sydd wedi cael ei charu gan gynulleidfaoedd eraill. Os nad ydych chi'n mynd i'r theatr yn rheolaidd yna gallaf addo rhywbeth i chi a fydd yn gwneud i chi deimlo'n gartrefol mewn gofod anghyfarwydd efallai a stori a fydd yn gwneud i chi chwerthin, meddwl a theimlo.

A oes neges ddofn, waelodol i'r cynhyrchiad?

Ha! Mae'n debyg mai chi sydd i benderfynu a ydych chi'n gwylio'r sioe. Fy marn i yw ei bod yn ymwneud â chysylltiad dynol a'r hud sy'n bodoli yno.

Dyweda ychydig wrthym am dy yrfa ar y llwyfan.

Felly, es i i'r ysgol ddrama o 2004-2007 a threulio fy ugeiniau yn gwneud tipyn o’r hwn a’r llall, rhai dramâu ymylol yn Llundain, rhai darnau radio a theledu a ffilmiau a llawer a llawer o waith bar. Fe wnes i fy sioe gyntaf (TEAM VIKING) yn 2015 ac rydw i wedi bod yn gwneud ac yn teithio'n hapus iawn ers hynny.

Wyt ti wedi ymweld â'r Torch o'r blaen, ac a wyt ti’n edrych ymlaen at berfformio yn y Torch?

Na, nid wyf wedi! Ac rydw i MOR GYFFROUS. Dw i wedi bod am ddod i’r Torch ers tro ac rydw i’n caru Cymru. Roedd ochr fy nhad o’r teulu oll yn Gymry ond yn anffodus roeddent wedi mynd i mi gael fy ngeni felly mae teithio i wlad fy nhadau yn bleser ac ni allaf aros i gwrdd â phobl!

Wyt ti’n mynd yn nerfus cyn ymddangos ar y llwyfan ac os felly, beth wyt ti’n ei wneud i dawelu'r nerfau?

Roeddwn i'n arfer gwneud ond nawr mae'n gyffro yn hytrach na nerfau a'r peth gorau i'r naill neu'r llall yw gwneud sioe dda iawn.

A fydd Learning to Fly yn gwneud i ni chwerthin, llefain neu'r ddau?

Bydd yn bendant yn gwneud i chi chwerthin, efallai y bydd yn gwneud i chi lefain - gobeithio y bydd yn gwneud i chi deimlo a meddwl - ond yn bwysicaf oll rwy'n meddwl y byddwch yn falch eich bod wedi dod os gwnewch hynny.

Beth yw dy gynlluniau sioe ar gyfer y dyfodol ac a allwn ni ddisgwyl dy weld ar daith eto?

Felly, ar hyn o bryd rwy'n gwneud sioe newydd ochr yn ochr â theithio Learning to Fly a'i ddilyniant Piece of Work. Byddwn wrth fy modd yn dod â mwy o sioeau i’r Torch!

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.