Yn Galw Ar Holl Gefnogwyr Cerddoriaeth Eidaleg a Puccini

Bydd cefnogwyr opera a cherddoriaeth glasurol yn gweld stori garu chwerwfelys Puccini sy’n gwneud ymddangosiad Met prin yn Theatr Torch fis Ebrill eleni, gyda’r soprano Angel Blue yn serennu fel Magda, y fenyw soffistigedig o Ffrainc, gyferbyn â’r tenor Jonathan Tetelman yn ei ymddangosiad cyntaf fel Ruggero yn La Rondine gan Puccini.

Maestro Speranza Scappucci sy’n arwain y llwyfaniad Art Deco a ysbrydolwyd gan Nicolas Joël, sy’n cludo cynulleidfaoedd o galon bywyd nos Paris i weledigaeth freuddwydiol o’r Riviera Ffrengig, yma yn Theatr Torch ddydd Sul 21 Ebrill.

Hefyd yn eu perfformiadau cyntaf yn y Met, mae’r soprano Emily Pogorelc a’r tenor Bekhzod Davronov yn cwblhau’r prif gast fel Lisette a Prunier, gyda Speranza Scappucci ar podiwm sy’n cyfuno swyn yr operetta Fiennaidd â rhamant a thorcalon clasuron Eidalaidd megis La Bohème a La Traviata.

Mewn darllediad wedi ei recordio oddi ar lwyfan y Met, La Rondine yw’r wythfed cynhyrchiad sy’n rhan o dymor 2023–24 The Met: Live in HD. Gyda rhediad o bron i dair awr, caiff yr opera ei chanu mewn Eidaleg gydag is-deitlau.

Caiff La Rondine ei darlledu ar lwyfan Theatr Torch ar ddydd Sul 21 Ebrill am 5.55pm. Pris tocyn £20 / £18 / £9 O dan 26. Am docynnau, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

Llun gan: Karen Almond / Met Opera

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.