Kiss Me, Kate: The Musical yn y Torch
Adrian Dunbar (Line of Duty, Ridley) a theulu brenhinol Broadway Stephanie J. Block (Into The Woods, The Cher Show) sy’n arwain cast serol newydd sbon mewn cynhyrchiad 5-seren o Kiss Me, Kate, wedi ei ffilmio’n fyw yn y Barbican yn Llundain yn arbennig ar gyfer y sgrin fawr a bydd yn cael ei dangos yma yn Theatr Torch fis Tachwedd.
Gan apelio at gefnogwyr Broadway a Sioeau Cerdd y West End, Phantom of the Opera a Miss Saigon, mae Kiss Me Kate y comedi cerddorol hwyliog, yn serennu cast ensemble gwych gan gynnwys enwebai Olivier Charlie Stemp (Crazy For You, Mary Poppins), Georgina Onuorah (The Wizard of Oz, Oklahoma), Nigel Lindsay (Victoria, Shrek The Musical), Hammed Animashaun (A Midsummer Night’s Dream, Black Ops) a Peter Davison (Dr Who, All Creatures Great and Small). Mae'r sioe gerdd yn cynnwys dawnsiau cyffrous a chlasuron cerddorol poblogaidd.
Wedi’i disgrifio gan The Telegraph fel ‘A glorious Age Spectrum’ a dyfarnwyd pum seren iddi, mae comedi gerdd chwedlonol Cole Porter mae ganddi giamocs cefn llwyfan, sonedau Shakesperaidd a gangsteriaid yn canu - heb sôn am ramant sy'n rhy boeth - a cherddorfa lawn yn perfformio clasuron y sioe. Brush Up Your Shakespeare, Too Darn Hot, Always True To You (In my Fashion) a Tom, Dick or Harry.
Mae Kiss Me Kate, sef stori garu syml am ddau berson na allant oddef ei gilydd, yn adloniant bythgofiadwy gyda ‘chaneuon gwych, dawnsio anhygoel, jôcs clyfar a chymeriadau godidog.’ (★★★★★ The Daily Mail).
Prisiau tocynnau ar gyfer Kiss Me, Kate a fydd yn ymddangos ar y sgrin yma yn Theatr Torch ar nos Sadwrn 30 Tachwedd am 7pm: Llawn: £14. Consesiynau: £12.50. Am docynnau, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.