KEITH JAMES - THE SONGS OF LEONARD COHEN
Ydych chi'n ffan o Leonard Cohen - y canwr-gyfansoddwr o Ganada ac un o leisiau mwyaf nodedig cerddoriaeth bop y 1970au? Yna, nid oes angen edrych ymhellach na Theatr y Torch ar nos Wener 7 Gorffennaf wrth i Keith James in Concert - The Songs of Leonard Cohen eich cludo yn ôl i’r hen ddyddiau da.
Yn y gyngerdd, a ddisgrifiwyd gan The Independent fel ‘some of the most atmospheric and emotive music you will ever hear,’ bydd Keith James yn rhoi perfformiad i chi o ddeunydd anhygoel Cohen yn y ffordd fwyaf agos atoch a sensitif y gellir ei ddychmygu, gan ddatgelu cryfder mewnol unig ei ganeuon mwyaf yn eu ffurf berffaith wreiddiol.
Mae Keith wedi perfformio taith helaeth o’r gyngerdd hon mewn Theatrau a Chanolfannau Celfyddydau ar draws y DU, gan berfformio dros 550 o gyngherddau i fwy na 200,000 o bobl. Mae hon wedi profi i fod yn un o’r anrhydeddau mwyaf yng ngyrfa 40 mlynedd Keith James mewn cerddoriaeth.
Dechreua’r gyngerdd gydag ANTHEM – ‘There is a crack in everything, that’s how the light gets in’ – llinell fwyaf cofiadwy a gweledigaethol Cohen o’i gân ANTHEM. Os bu brawddeg erioed mewn barddoniaeth fodern i fyfyrio arni a rhoi gobaith a dealltwriaeth i bawb, y llinell hon yw hi.
Yn gynwysedig yn y gyngerdd mae caneuon adnabyddus Cohen: Famous Blue Raincoat, Sisters of Mercy, Suzanne, a Hallelujah ochr yn ochr â’i ysgrifennu mwy prin a dwys fel If It Be Your Will, Joan of Arc a Secret Life. Cynhwysir hefyd berfformiadau dramatig Keith yn seiliedig ar waith Federico Garcia Lorca – dylanwad mwyaf Cohen.
Bydd Keith James in Concert - The Songs of Leonard Cohen yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Wener 7 Gorffennaf am 7.30pm. Tocynnau’n £18. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.