JUSTIN MOORHOUSE - STRETCH AND THINK
Mae'r digrifwr ar ei sefyll a DJ radio adnabyddus o Fanceinion, Justin Moorhouse yn ôl am noson o chwerthin hollti bol yn Theatr y Torch ar ddydd Iau 13 Ebrill 2023.
Nid oes angen cyflwyniad ar Justin - ymddangosodd yn Phoenix Nights a Looking for Eric gan Peter Kay yn ogystal â chymryd rhan yng nghyfres 2010 o Sioe Deithiol Gomedi Michael McIntyre fel un o'r actau ategol.
Yn ddigrifwr, actor, cerddwr cŵn, rhiant, fegan cudd a jôcwr gogleddol, rhaid gweld Moorhouse yn ei sioe newydd sbon a all gynnwys ioga, heneiddio, Madonna, siopladron, Labradwdls, beicwyr canol oed, Y Menopos, rhedeg, yn casáu cefnogwyr pêl-droed ond yn caru pêl-droed, peidio ag yfed, angladdau, a ydyw Tapas yn dwyll?, Capten Tom, Droylsden, yr amgylchedd, hunan-wella, difetha sefyllfa rywiol, mannau gwefru ceir trydan a ddefnyddir gan doggers, graddio meithrinfa, ceffylau, rheiny sy’n debyg i Stig, bwyd cartref mewn mannau nad ydynt yn gartref i chi, manteision rhyfedd crefyddau sylfaenol, y gampfa a moesau drws siop.
Mae gan Moorhouse gyfoeth o brofiad ar lwyfan. Yn 29 oed, bu’n cystadlu mewn cystadleuaeth gomedi leol, gan ennill y rownd derfynol a gynhaliwyd yn y Comedy Store Manceinion a does dim edrych yn ôl. Yn fuan wedyn, perfformiodd mewn taith gomedi, cyn cael rôl Young Kenny yn Phoenix Nights. Er bod Young Kenny yn un o gefnogwyr Manchester City, mae Moorhouse ei hun yn cefnogi eu cystadleuwyr, Manchester United.
Bydd ei sioe newydd yn gwneud i chi chwerthin drwyddi draw, a chi’n gwybod beth…. mae ganddo siwt newydd. Dewch, bydd yn sbort.
Bydd Justin Moorhouse Stretch and Think yn fyw ar lwyfan Theatr y Torch, Aberdaugleddau ar nos Iau 13 Ebrill 2023 am 8pm. Tocynnau: Oedolion: £15/ £5 di-waith a gellir eu harchebu o’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.