SÊR Y WEST END, HELEN SHIELDS AC EMMA DEARS, YN HEIDIO AM SIR BENFRO

Mae Judy Garland a Liza Minnelli yn ôl gyda’i gilydd unwaith eto diolch i brofiad cerddorol campus, Judy and Liza. Byddant yn ymweld â Theatr y Torch, Aberdaugleddau gyda’u cynyrchiad disglair sy’n adrodd y stori gythryblus un o sêr mwyaf Hollywood yn erbyn cefnlen eu cyngerdd 1964 ym Mhaladiwm Llundain.

Ar ddydd Gwener 14 Ebrill bydd sêr y West End Emma Dears a Helen Sheals yn canu eu caneuon mwyaf enwog gyda thebygrwydd annifyr, yn byrlymu ag ansawdd seren wibiog. Yn cynnwys perfformiadau byw megis Cabaret, Maybe This Time, The Trolley Song and The Man That Got Away i enwi ond y rhai, caiff aelodau o’r gynulleidfa eu cludo ar daith ffigar-êt emosiynol.

Mae gan y ddwy actores gofnodion actio gwych ac nid yw Helen Sheals, sy’n chwarae rhan Judy, yn ddieithr i’w rôl, ar ôl chwarae rhan Judy Garland yn y sioe gerdd “Judy!” yn Theatr y Celfyddydau yn West End Llundain. Mae hi hefyd wedi gweithio'n helaeth ym myd theatr a theledu gan gynnwys rolau yn Silent Witness a Casualty.

Mae Emma Dears, a aned yn Lerpwl, yn chwarae rhan Liza. Yn gynnar yn ei gyrfa aeth i Lundain i ymuno ag Academi Celfyddydau Perfformio Italia Conti. Cynigiwyd rhan iddi yn y Tour of “Les Miserables” gan berfformio yn Nulyn a Chaeredin. Yna aeth ymlaen i fwynhau cyfnod hir yn y West End yn Llundain yn chwarae “Ellen” yn Miss Saigon yn y Theatre Royal, Drury Lane. Yn fwy diweddar chwaraeodd ran Heather yn Emmerdale.

Caiff y sioe ei disgrifio fel “perfformiad swynol” gan What’sOnStage.com a buan y byddwn yn darganfod y tebygrwydd rhyfedd rhwng rhai o ganeuon mwyaf eiconig Judy a Liza a’u bywydau personol eu hunain. Treuliwch noson gyda’r fam a’r ferch a wnaeth wir roi’r ‘show’ i showbiz.

Bydd Judy and Liza ar lwyfan Theatr y Torch, Aberdaugleddau ar ddydd Gwener 14 Ebrill 2023 am 7.30pm. Tocynnau’n £25 a gellir eu harchebu o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.