Yr Artist Enwog - John Singer Sargent

Mae John Singer Sargent yn cael ei adnabod fel arlunydd portreadau mwyaf ei oes. Yr hyn a wnaeth ei bortreadau ‘swanc’ yn rhyfeddol oedd ei bŵer dros ei eisteddwyr, yr hyn a wisgwyd a sut yr oeddent yn cael eu cyflwyno i’r gynulleidfa.

Daw Exhibition on Screen â John Singer Sargent – Fashion & Swagger i Theatr Torch ar nos Fawrth 16 Ebrill.

Trwy gyfweliadau gyda churaduron, ffasiwnwyr cyfoes a dylanwadwyr arddull, bydd ffilm Exhibition on Screen yn archwilio sut mae arfer unigryw Sargent wedi dylanwadu ar gelfyddyd, diwylliant a ffasiwn fodern. Wedi’i ffilmio yn Amgueddfa’r Celfyddydau Cain, Boston a’r Tate Britain, Llundain, mae’r arddangosfa’n datgelu pŵer Sargent i fynegi personoliaethau nodedig, deinameg pŵer a hunaniaethau rhywedd yn ystod y cyfnod hynod ddiddorol hwn o ailddyfeisio diwylliannol.

“Fel gwneuthurwyr ffilm, mae’r cyfarwyddwr David Bickerstaff a minnau wedi bod wrth ein bodd gwneud y ffilm hon am Sargent, rhywun rydym yn ei ystyried yn artist gwirioneddol syfrdanol,” esboniodd un o’r cynhyrchwyr Phil Grabsky.

Ychwanegodd: “Mae bob amser yn fy nghyfareddu sut mae rhai artistiaid mor adnabyddus a rhai eraill fel pe baent wedi hedfan o dan y radar. Er mai John Singer Sargent oedd artist portreadau enwocaf diwedd y 19eg ganrif, nid yw'n enw cyfarwydd bellach. Er hynny, mae Exhibition on Screen bob amser wedi bod â’r bwriad o wneud ffilmiau nid yn unig am enwau mawr – Da Vinci, Michelangelo, Van Gogh, Raphael, Vermeer – ond hefyd y rhai sy’n haeddu mwy o sylw.”

Ochr yn ochr â 50 o baentiadau gan Sargent, mae eitemau syfrdanol o ddillad ac ategolion a wisgwyd gan ei ddeiliaid, gan dynnu’r gynulleidfa i mewn i stiwdio’r artist. Roedd eisteddwyr Sargent yn aml yn gyfoethog, eu dillad yn gostus, ond beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n troi eich hun drosodd i ddwylo arlunydd gwych? Mae gweithgynhyrchu hunaniaeth gyhoeddus yr un mor ddadleuol heddiw ag yr oedd ar droad yr 20fed ganrif, ond rhywsut mae gwaith Sargent yn mynd y tu hwnt i’r sŵn cymdeithasol ac yn cyfleu gwirionedd hudolus gyda phob strôc y brwsh.

I archebu eich tocynnau i weld John Singer Sargent - Fashion & Swagger yn Theatr Torch ar nos Fawrth 16 Ebrill am 7.30pm, cliciwch yma neu gysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267. Tocynnau’n £13.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.