James Williams - Yn Swyno'r Glust
Mae’r cyfansoddwr, awdur a chyfarwyddwr o Sir Benfro, James Williams, wedi gweithio ar bob sioe Nadoligaidd yn Theatr Torch am y 25 mlynedd diwethaf. Ei sioe gyntaf yn y Torch yn Aberdaugleddau oedd Christmas Cat and the Pudding Pirates nôl ym 1998 ac ers hynny mae James wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda sawl cyfarwyddwr artistig ac actor ar hyd y daith.
Y Nadolig hwn, mae James, Cyfarwyddwr Cyswllt y Torch, wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer pantomeim Nadoligaidd Theatr Torch, Jack and the Beanstalk yn ogystal â Little Red Riding Hood ar gyfer Theatr y Sherman, wedi ysgrifennu A Christmas Wish for Simply Theatre, Geneva ac wedi ysgrifennu a chyfarwyddo Snow White and the Seven Elves ar gyfer Bluestone Wales.
“Mae cyfansoddi ar gyfer Theatr Torch eleni wedi bod yn bleser pur, gyda llawer o wiriondeb. Mae'r sgript jest yn ffantastig, ac mae'r caneuon yn fachog, yn llawn ymadroddion gwych a fydd yn aros yn eich pen. Mae gennym ni gantorion anhygoel, ac mae'r gerddoriaeth yn taro nodyn, yn heriol, yn popio ac yn llawer o hwyl gyda chyfranogiad y gynulleidfa lle bydd pobl yn teimlo'n rhan o'r perfformiad. Mae’r ‘gân pump y dydd’ yn bendant yn un y byddwch chi’n ei chofio,” chwarddodd James.
Ond wedi cyfansoddi ar gyfer cymaint o bantomeimiau Nadoligaidd yma yn Sir Benfro, o ble y caiff James ei ysbrydoliaeth?
“Mae’r cyfan yn dechrau gyda’r sgript, a dw i’n gwneud yn siŵr bod y caneuon yn berthnasol i’r symudiadau ar y llwyfan. Rwy'n ceisio dychmygu sut brofiad fyddai bod yn y byd hwnnw ac os gallaf gael y cymeriad yn glir yn fy mhen, daw'r cyfan yn hawdd. Y geiriau sy’n anoddach i mi a gall fod yn dipyn o her,” esboniodd James a symudodd i ardal Caeriw o Gaerdydd ychydig cyn y cyfnod clo.
Dros y blynyddoedd, mae James wedi gweithio i sawl cwmni arall gan gynnwys NTW, WNO, Hijinx, Triongl, Give It A Name a Theatre Royal Plymouth. Ef yw cyfansoddwr y sioe gerdd The Jolly Folly o Polly the Scottish Trolley Dolly a The Sheep Chronicles mewn cydweithrediad â’r dramodydd Lesley Ross. Ef yw cyfarwyddwr y sioe syrcas gwobrwyedig Flown for Pirates of the Carabina ac mae wedi cyfarwyddo Arddangosfa MAMT ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers y cwrs i ddechrau yn 2011.
Gyda dim ond pum mlynedd arall o fwynhad cyn i James gyrraedd carreg filltir enfawr o gyfansoddi ar gyfer y sioeau Nadolig yma yn Theatr Torch, mae Jack and the Beanstalk yn parhau i fod yn un o'i ffefrynnau.
Gellir gweld Jack and the Beanstalk yn Theatr Torch o ddydd Gwener 13 - Sul 29 Rhagfyr 2024 gyda pherfformiadau prynhawn a chyda’r hwyr. Pris tocyn: £23.50 | £19.50 Consesiynau| £75.00 Teulu. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad BSL - Dydd Mawrth 17 Rhagfyr am 6pm.
I archebu eich tocynnau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.