Paratoadau Ar Eu Ffordd Ar Gyfer Trît Nadoligaidd I'r Teulu Cyfan

Efallai mai dim ond diwedd mis Awst yw hi ond mae cynlluniau ar gyfer y pantomeim Nadoligaidd blynyddol yn Theatr Torch, Aberdaugleddau wedi hen ddechrau. Y wledd Nadoligaidd eleni yw’r stori dylwyth teg boblogaidd Jack and the Beanstalk, gydag elfen Theatr Torch. Yn cynnwys coesyn ffa yn crwydro’n uchel i’r awyr uwchben Aberdaugleddau, pasteiod llus ac enfys hudolus yn Cloud Land, yn ogystal â Pat, y fuwch odro hyfryd sy’n mynd ar drot i Sêl Bŵt-Car Caeriw – beth sydd ddim i’w garu?

Gyda chyfranogiad arferol y gynulleidfa, y Dylwythen Deg Dda, y Teulu Trott hoffus ac wrth gwrs rhai drwg i'w hwtian a'u bwio, mae'r pantomeim teuluol hwn o gyfrannau enfawr, yn hanfodol i bawb wrth i Jack fynd â ni ar daith gyffrous i werthu ei annwyl Pat am lond llaw o ffa hud. Mae'r hyn y bydd Jac yn dod o hyd iddo ar ben y goeden ffa eto i'w ddarganfod.

Bydd cast o actorion dawnus, a gyhoeddir yn fuan, yn camu’n ddewr ar y llwyfan dros gyfnod y Nadolig dan lygaid barcud Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch, Chelsey Gillard sy’n edrych ymlaen at ddod â’r cymeriadau’n fyw ar y llwyfan.

Meddai Chesley: “Mae Jack and the Beanstalk yn un o fy hoff chwedlau erioed – rydw i wedi bod yn gweithio ar y sgript ers i Beauty and the Beast ddod i ben, felly rydw i’n llawn cyffro i ddechrau ar y dyluniad. Fel bob amser, mae Kevin wedi creu gwisgoedd a set a fydd yn dal dychymyg pob oed. Mae'r dyluniadau gwisgoedd yn ddoniol, yn enwedig i'r Fonesig Trott! Mae ambell i syrpreis ar hyd y ffordd a digon o hud theatrig i’r tîm technegol anhygoel yn y Torch ei greu. Efallai ei fod yn ymddangos yn bell i ffwrdd, ond bydd tymor yr ŵyl gyda ni cyn i ni droi!”

Mae Kevin Jenkins yn hapus i ddychwelyd i'r Torch i weithio ar Jack and the Beanstalk, ei drydedd tro yn dylunio ar gyfer y Torch, ar ôl dylunio Private Lives a Beauty and the Best.

Meddai Kevin: “Mae Jack and the Beanstalk yn sioe hynod liwgar. Mae’r set yn siriol a llachar a bydd yn gefndir perffaith ar gyfer y terfysg o hwyl a chwerthin y bydd y cast yn ei gyflwyno i’r gynulleidfa. Mae yna nifer o newidiadau gwisgoedd i’r Fonesig a digon o wenu i’w cael.”

Bydd Jack and the Beanstalk ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Gwener 13 Rhag - Sul 29 Rhag 2024 gyda pherfformiadau prynhawn a’r hwyr. Pris tocynnau: £23.50 | £19.50 Consesiynau | £75.00 Teulu. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad BSL - Dydd Mawrth 17 Rhagfyr am 6pm.

I archebu eich tocynnau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

 

Ffoto: Cynllunydd Set a Gwisgoedd Kevin Jenkins a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Torch Chelsey Gillard ar brif lwyfan Theatr Torch yn trafod elfennau llwyfan Jack and the Beanstalk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.