Sioe Un Fenyw yn Ymweld â'r Torch

Mae Theatr Torch yn edrych ymlaen at groesawu Iphigenia yn Sblot i’w llwyfan. A hithau newydd gael ei pherfformio am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yr wythnos hon, bydd yr addasiad Cymraeg yn dod yma i Sir Benfro nos Fercher 18 Medi.

Seren Hamilton fydd yn cymryd y brif ran yn ei pherfformiad mawr cyntaf wrth gwblhau ei blwyddyn olaf mewn Actio yng Ngholeg Celfyddydau Perfformio Rose Bruford. Alice Eklund fydd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad newydd hwn bron i ddegawd wedi iddo ddod yn rhyngwladol boblogaidd.

Mae’r ddrama un fenyw Iphigenia yn Sblot yn ddadansoddiad ffyrnig o’n cymdeithas a’r bywydau chwerw sydd yn bodoli. Ers ei dangosiad cyntaf yn Theatr y Sherman yn 2015, mae wedi ennill y James Tait Black Prize ar gyfer Drama 2016 a’r Best New Play Award yng Ngwobrau Theatr y DU 2015, gyda’r cynhyrchiad gwreiddiol yn teithio i Ŵyl Ymylol Caeredin, ar draws Cymru a’r DU a chyn belled ag Efrog Newydd a Berlin. Yn 2022, cafodd y ddrama ei hail-lwyfannu gan Lyric Hammersmith i ganmoliaeth fawr. Mae wedi'i chyfieithu a'i pherfformio mewn sawl iaith hefyd.

“Rydw i mor gyffrous i gyfarwyddo’r cynhyrchiad hwn. Chwaraeodd Iphigenia yn Sblot ran enfawr yn fy nghyflwyniad i ysgrifennu newydd ac ni allaf aros i weld stori Effie yn dod yn fyw yn y Gymraeg. Mae gwneud y ddrama hon yn y ffordd hon yn teimlo mor amserol, mor berthnasol ac mor angenrheidiol ar hyn o bryd,” meddai’r Cyfarwyddwr, Alice Eklund.

Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, themâu sensitif gan gynnwys galar a cholled newydd-anedig yn ogystal â golygfeydd y gall rhai aelodau o’r gynulleidfa deimlo’n bryderus.

Bydd Iphigenia yn Sblot yn cael ei pherfformio yn Theatr Torch ar nos Fercher 18 Medi am 7.30pm. Pris tocyn: Oedolyn: £16. Consesiwn: £14. O dan 26: £10. I archebu eich tocynnau neu am fwy o wybodaeth cysylltwch gydar Swyddfa Doynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.