DIWEDDARIAD PWYSIG YN YMWNEUD Â THRWYDDEDAU COVID O'R 15FED O DACHWEDD
Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru, bydd angen i bawb 18 mlwydd oed a hŷn sy’n dod i weld sioe neu ddangosiad ffilm yn Theatr y Torch ddangos Tocyn Covid y GIG neu dystiolaeth o ganlyniad prawf llif ochrol negyddol diweddar Covid. Daw hyn i rym o ddydd Llun 15fed Tachwedd 2021.
Mae cyflwyno'r pás Covid yn ychwanegol at y mesurau llym sydd eisoes ar waith yn y Torch. Hoffwn eich sicrhau bod y mesurau ychwanegol hyn wedi'u rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud i chi deimlo hyd yn oed yn fwy diogel pan ymwelwch â ni ac i sicrhau bod y Torch yn parhau i weithredu'n ddiogel, gan wasanaethu ein cymuned leol yn yr adeilad fyny at y Nadolig a thrwy gydol misoedd y Gaeaf.
Mae eich diogelwch chi, a diogelwch ein staff, ein gwirfoddolwyr a'n hartistiaid o'r pwys mwyaf, a hoffwn eich sicrhau ein bod wedi mynd y tu hwnt i Ganllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Benfro wrth sicrhau bod y Torch mor ddiogel â phosibl ers i ni ailagor ein drysau ddechrau mis Medi. Byddwn yn parhau i ddilyn y canllawiau a gyhoeddwyd ac yn ymateb yn unol â hynny i sicrhau bod eich profiad yn y Torch mor gynnes a chroesawgar ag erioed.
Gwerthfawrogwn nad yw amseriad y cyhoeddiad wedi gadael fawr o rybudd i rai ohonoch baratoi eich Tocyn Covid. Mae yna sawl ffordd y gallwch chi gael Tocyn Covid ac mae gennych yr opsiwn arall o ddarparu tystiolaeth o brawf llif ochrol negyddol sydd wedi ei gymryd 48 awr cyn i chi ymweld â ni. I gael eich Tocyn Covid a / neu i gael gwybodaeth am gynnal a chofrestru prawf llif ochrol, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yma:
https://gov.wales/get-your-nhs-covid-pass
Mae ein Cwestiynau Cyffredin Covid Llawn gan gynnwys gwybodaeth am y Pasbortau newydd i'w gweld ar ein gwefan yma:
https://www.torchtheatre.co.uk/your-visit/covid-19-faqs/
Bydd y sioe yn mynd ymlaen yma yn y Torch ac edrychwn ymlaen at eich croesawu dros y misoedd nesaf.
Diolchwn i chi am eich cefnogaeth barhaus.
Benjamin Lloyd, Cyfarwyddwr Gweithredol, ar ran y tîm yn Theatr Torch.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.