ART WORKS GAN IAN A CHRISTINE JACOB

Gwaith artistiad lleol fydd yn ymddangos yn arddangosfa ddiweddaraf Oriel Joanna Field yn Theatr y Torch yr wythnos hon. Wedi hir-aros, bydd modd gweld gwaith Ian a Christine Jacob - gwaith a oedd fod i'w arddangos yn 2020 i ddathlu pen-blwydd y cwpl yn 70 oed ar y cyd. Ond, oherwydd Covid a'r cyfnodau clo, doedd dim modd gwireddu hyn.

Cyfarfu Ian, sy’n hanu o Langwm, a Christine yn Ysgol Gelf Goldsmiths College yn Llundain. Astudiodd Christine ddylunio ffasiwn ac aeth ymlaen i ddylunio dillad plant ar gyfer M&S. Ar ôl gadael y coleg bu Ian yn addysgu ac yn arddangos am gyfnod byr cyn newid cyfeiriad. Am dros 30 mlynedd bu'n mwynhau gyrfa farchnata lwyddiannus yn Llundain ac Efrog Newydd. Yn 2010, penderfynodd y ddau newid cyfeirad a lleoliad gan werthu eu cartref yn Nyffryn Tafwys a symud i Black Tar, Sir Benfro a dod yn ‘artistiaid’!

Mae’r holl weithiau celf yn yr arddangosfa wedi’u seilio/dylanwadu gan yr hyn y gallwch ei weld o Aber Afon Cleddau o’u cartref yn Black Tar - yn benodol y darn dŵr rhwng Benton Wood a Picton Point.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys amrywiaeth eang o waith, arddulliau a chyfryngau’r ddau – lluniwyd y ddelwedd weledol o’r chwibanogl (isod) gan Christine ar ei iPad. Cafodd y dirwedd, sy'n rhan o driptych, ei phaentio gan Ian yn ystod y cyfnod clo.

Ddwy flynedd yn hwyrach na’r disgwyl mae Theatr y Torch yn falch o arddangos gwaith Ian a Christine ac fel y dywed Ian: “Gwell hwyr na byth!”.

Bydd ART WORKS gan Ian a Christine Jacob yn cael ei arddangos o ddydd Gwener 5 i ddydd Mercher 31 Awst yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, ac mae modd ymweld â'r arddangosfa pan fydd y theatr ar agor. Mae mynediad am ddim i Oriel Joanna Field.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.