CYFWELIAD I AM 8

Dywedwch wrthym am I am 8 – beth yw’r perfformiad a beth allwn ni ei ddisgwyl?

Yn syml, mae’r sioe yn ymwneud â bod yn wyth, a’r holl hwyl a direidi sy’n mynd i mewn iddi. Mae'n llawn egni, ond mae ganddi rannau tawelach hefyd. Gobeithiwn y bydd y sioe yn cynnig rhywbeth a fydd yn atseinio gyda phob plentyn ac oedolyn yn y gynulleidfa.

 Pa gymeriad ydych chi'n ei chwarae yn I am 8?

Rwy'n chwarae cymeriad sy'n eithaf swil, ond sydd hefyd ag eiliadau o fod yn ddewr i ymestyn allan o gylchfa gysur i ryngweithio â'r gynulleidfa. Mae hi eisiau bod yn rhan a bod yn ffrindiau gyda phawb.

Ydy’r ddrama wedi gwneud i chi hel atgofion am anturiaethau a meddyliau eich plentyndod pan oeddech chi’n wyth oed?

Mae'r sioe yn bendant wedi gwneud i mi feddwl am fy mhlentyndod, ond hefyd wedi rhoi'r cyfle i mi chwarae'r plentyn nad oeddwn o reidrwydd pan oeddwn yn wyth oed.

A oes elfen addysgiadol i'r cynhyrchiad?

Mae'r sioe yn ymgorffori gwahanol arddulliau dawns fel Fflamenco, dawns Glasurol Indiaidd a ‘break’ a allai fod yn gyflwyniad i'r gynulleidfa na fyddai efallai wedi profi'r ffurfiau celf hyn o'r blaen.

A oedd rhaid i chi wneud tipyn o ymchwil i'ch rôl o fod yn wyth oed eto?

Fe wnaethom gynnal nifer o weithdai gyda phlant wyth oed, eu holi am eu hoffterau a'u cas bethau, a'u gwylio nhw fel eu hunain. Ymchwil oedd hwn i mi ac roedd wedi fy helpu i ymgorffori plentyn wyth oed.

Beth yw eich hoff ran o’r cynhyrchiad?

Fy hoff ran o’r cynhyrchiad yw pan fydd Josie yn gwneud ei hunawd Fflamenco!

A oes gennych chi hoff atgof o'ch bywyd fel plentyn wyth oed?

Roeddwn i wrth fy modd gyda'r hafau pan oedd fy nghefnder a minnau'n arfer adeiladu pabell gyda chynfasau gwely ac yn bwyta llawer o hufen iâ.

Hoffech chi fod yn wyth oed eto. Os felly, pam?

Dw i ddim yn siŵr. Efallai. Roeddwn yn blentyn eithaf difrifol pan oeddwn yn wyth oed. Hoffwn fod yn wyth eto a bod yn fwy diofal!

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.