I AM 8

BETH MAE’N TEIMLO FEL I FOD YN WYTH MLWYDD OED?

“Fe wnaeth i fi chwerthin, fel na fedrwn chwerthin rhagor”

Beth mae’n teimlo fel i fod yn wyth mlwydd oed? Ydych chi’n cofio? … Bydd cynhyrchiad Sweetshop Revolution mewn cydweithrediad â Chanolfan Celfyddydau Memo, Theatr y Torch a Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth yn datgelu’r cyfan a bydd yn dod â’r holl atgofion hynny yn ôl mewn cynhyrchiad o’r enw I AM 8 – yn Theatr y Torch fis Mehefin.

Ar ddydd Mercher 7 o Fehefin am 6pm paratowch eich hun i ddychwelyd yn ôl i’r amserau rhyfedd hynny, ond di-ofal wrth i I AM 8 rannu’r amserau anodd hynny.

Roedd cyfarwyddwr I AM 8, Sally Marie, wedi anghofio’n union fel ydoedd i fod yn wyth mlwydd oed .. ac os ydych am greu sioe ar gyfer y rheiny sydd yn wyth mlwydd oed a’u teuluoedd; wel, mae hynny’n bach o broblem. Felly, cafodd Sally saith o’i ffrindiau a oedd yn ddawnswyr ynghyd a gofyn i blant wyth oed ar draws Cymru gyfan beth mae bod yn wyth mlwydd oed yn golygu iddyn nhw.

“Golyga bownsio, a neidio, a thasgu a bod yn hapus a theimlo’n unig a dwlu bod gyda’ch ffrindiau,” meddai Sally a aeth ymlaen i greu’r sioe hon am fownsio, a thasgu, ac…wel, rydych yn cael y syniad. A nawr mae eich dawnswyr am rannu hyn gyda CHI!

Wedi'i ddisgrifio'n gadarnhaol fel cynhyrchiad doniol gan aelodau'r gynulleidfa, mae I AM 8 gan Sweetshop Revolution yn hwyl ac yn olwg chwareus ar obeithion a breuddwydion plentyndod, sy’n addas i’r rheiny wyth oed o bob oed.

“Fe wnaeth fy atgoffa cymaint yr oeddwn wrth fy modd yn chwarae gyda fy ffrindiau” ac “Fe wnaeth i mi deimlo’n chwareus” meddai aelodau hapus o’r gynulleidfa.

Bydd I AM 8 yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Mercher 7 Mehefin am 6pm. Tocynnau pris llawn: £12.00 / Plentyn: £8.00. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.