Hwrê i Aelodau Ieuenctid Theatr Torch!

“Dw i’n meddwl bod hwn yn un, os nad fy hoff berfformiad theatr yn y Torch ac rydw i am weld y criw yma’n perfformio mwy fel hyn yn y dyfodol” – dyma oedd barn Riley, un o adolygwyr iau Theatr Torch ar ôl iddo ddod i weld Ravers yn ddiweddar. Wedi’u cyflwyno fel rhan o raglen National Theatre Connections, roedd y tri pherfformiad gan bobl ifanc Sir Benfro yn llwyddiant ysgubol, gyda chymeradwyaeth ar ei sefyll gan y gynulleidfa!

Roedd y ddrama ysgafn newydd sbon hon a ysgrifennwyd gan Rikki Beadle-Blair, rhan o gynhyrchiad y gwanwyn gan aelodau Ieuenctid y Torch, yn gwahodd ei chynulleidfa i ystyried y byd trwy lygaid pobl ifanc, lletchwith. Roedd y Nyrds a’r Gȋcs (Nîcs) yn trefnu rêf yn Theatr Torch ac yn dilyn misoedd o ymarferion a llawer o hwyl ar hyd y daith, roedd y sioeau a oedd bron â gwerthu pob tocyn yn cael eu cefnogi’n dda iawn gan rieni a’r gymuned fel ei gilydd.

“Rydym yn hynod falch o’n pobl ifanc,” meddai Tim Howe, cyfarwyddwr y cynhyrchiad ac Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn y Torch. “Cafodd y perfformiadau eu cefnogi’n dda iawn, ac roedd y bobl ifanc jest yn wych, yn hollol wych. Roedd yn ymwneud â gwaith tîm, llesiant a gwneud ffrindiau ac rydym yn edrych ymlaen at ddangos pa mor anhygoel mae’n pobl ifanc yn Aberystwyth pan fyddwn yn teithio gyda’r sioe.”

Wrth drafod Ravers, disgrifiodd un actor ifanc y peth fel “swnllyd ond da, pleserus a llawn mynegiant.” Ychwanegodd un arall “mae’r Torch bob amser yn ein cyflwyno i sgiliau newydd i’n helpu ni yn y diwydiant celfyddydau perfformio ac mae’n lle cysurus i ni chwerthin a dod i adnabod ein gilydd.”

Mae’r aelodau wedi bod yn gweithio’n galed ar Ravers ers mis Medi a byddant yn mynd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddydd Sadwrn 12 Ebrill.

Mae Theatr y Torch nawr yn paratoi ar gyfer ei thymor Theatr Ieuenctid Haf ar gyfer pobl ifanc rhwng saith a 18 oed, a fydd yn dod i glo gyda chynhyrchiad theatr ieuenctid llawn ysblennydd The Bangers and Chips Explosion.

Mae Rhaglen Ieuenctid y Torch yn helpu pobl ifanc i ddeall beth yw bod yn wneuthurwr theatr. Bob wythnos, cânt eu hannog i fagu hyder trwy sesiynau meithrin sgiliau creadigol a deniadol, dan arweiniad tîm ymroddedig Theatr Torch.

Ychwanegodd Tim: “Yn ystod tymor yr haf mae pob plentyn yn gallu cymryd rhan yn ein prif gynhyrchiad tŷ, eleni rydym yn hynod falch o fod yn cyflwyno comedi chwerthin hollti bol am ddisgyblion ysgol sy’n mynd ar streic oherwydd ni fydd y wraig ginio yn coginio sglodion iddyn nhw… gyda chanlyniadau ffrwydrol! Nid actio a theatr yn unig yw ein sesiynau wythnosol; rydym yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn dysgu am sgiliau cymdeithasol, datrys problemau, a gwaith tîm. Yn bwysicaf oll mae ein pobl ifanc yn cael hwyl ac yn gwneud ffrindiau newydd.”

Os hoffech noddi gwaith Theatr y Torch gyda phobl ifanc yna cysylltwch â’r Theatr.

“Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych a gweld sut y gall eich cefnogaeth helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf,” meddai Tim.

Mae tymor yr Haf yn dechrau ar ddydd Mawrth 29 Ebrill, ac os hoffech gael newyddion ecsgliwsif ar sut mae archebu eich lle, neu os hoffech siarad â’r Torch am gefnogi’r Theatr Ieuenctid yna cysylltwch â tim@torchtheatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.