HOW TO BE WELL IN A WORLD THAT IS SICK?

Mae sioe un fenyw newydd Bethan Dear yn herio’r ffordd y mae menywod yn cael eu cynrychioli a’u trin o fewn ein diwylliant. Mae hi’n gofyn i ni ystyried pam ein bod yn cuddio ochr hyll iechyd meddwl yn ei sioe yn Theatr y Torch nos Iau 22 Mehefin am 7.30pm.

Mae How to be Well in a World that is Sick? yn sioe 70 munud bwerus a phwysig sy’n archwilio sut y gall agweddau ein cymdeithas tuag at drawma ac iechyd meddwl fod yn brifo pob un ohonom. Mae’r stori gan Theatr Jackdaw ar y cyd â New Pathways yn edrych ar blymio i dywyllwch, ymladd cythreuliaid y tu mewn a'r tu allan, codi'n ôl eto, ac ail-ddarganfod y golau.

Yn dilyn ei gweithiau clodwiw blaenorol gyda Jackdaw Theatre (Hindle Wakes, Ten Women, Harlesden High Street), mae Bethan yn tynnu ar ei phrofiadau personol o lywio effeithiau hirdymor trawma. Mae hi’n cydweithio â New Pathways, un o’r asiantaethau mwyaf yng Nghymru sy’n darparu cymorth am ddim i bobl ifanc ac oedolion sydd wedi’u heffeithio gan drais neu gam-drin rhywiol.

Gan berfformio canol llwyfan, bydd Bethan yn mynd â’r gynulleidfa ar daith gyfareddol gan ddefnyddio tafluniad ffilm, symudiad, clown a’r gair llafar i rannu ei phrofiadau.

Hola’r darn nifer o gwestiynau: Sut ydyn ni’n gwella o effeithiau trais? I ble yr awn â’r canlyniad? Sut mae llywio byd sydd ar yr un pryd yn peri trais ac yn tawelu ei ddioddefwyr? Mewn delwedd o obsesiwn, sut ydym ni'n aros yn dda?

“Dechreuais archwilio’r themâu hyn oherwydd fy mod yn teimlo’n gryf am y ffordd y mae menywod a’u cyrff yn cael eu cynrychioli yn ein diwylliant. Rwy’n teimlo’n angerddol ac yn ddig ynglŷn â sut rydyn ni’n cael ein portreadu a sut mae hyn yn gysylltiedig â’r lefel gyson o drais a cham-drin y mae llawer o fenywod yn ei ddioddef. Rwy’n teimlo bod gennnym ffordd bell i fynd i ddeall yr effaith wirioneddol y mae’r trais hwn yn ei gael o ran PTSD, trawma a brwydrau iechyd meddwl hirdymor,” esboniodd Bethan.

Ychwanegodd: “Wrth greu'r gwaith hwn, rwy'n dal i ofyn i mi fy hun ar gyfer pwy ydw i'n gwneud hwn? A yw ar gyfer unrhyw un sydd wedi profi trais domestig a rhywiol? A yw’n benodol ar gyfer menywod sydd wedi profi trais ar sail rhywedd? Ai i unrhyw un sy'n gwybod beth yw hi i ddioddef a chael trafferth gydag anawsterau iechyd meddwl? Ai dathlu a chydnabod yr hyn yr wyf wedi ei orchfygu? Efallai ei fod ar gyfer yr holl bethau hyn a'r holl bobl hyn.”

Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol New Pathways, Mike Wilkinson: "Mae portread Bethan o unigolyn sy'n ceisio dod i delerau â phrofiadau o drawma a chamdriniaeth yn bwerus ac yn ysgogi'r meddwl. Ac eto mae hefyd yn llawn hiwmor, cryfder, ac yn y pen draw yn stori o obaith. Rydym yn falch iawn o gefnogi'r prosiect hwn gan y bydd yn ddi-os yn annog eraill sydd wedi cael eu cam-drin i ddod ymlaen a cheisio cymorth."

Bydd How to be Well in a World that is Sick? yn teithio ar draws Cymru yn ystod mis Mehefin. Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol, gyda chefnogaeth gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatr Clwyd a Chanolfan Gelfyddydau Chapter.

Mae'r sioe yn cynnwys noethni corff llawn a chyfeiriadau at drais rhywiol a domestig, iselder, ôl-fflachiau, teimlo'n hunanladdol, PTSD, trawma, a brwydrau iechyd meddwl eraill. Ni fydd unrhyw ddisgrifiadau manwl na darluniau uniongyrchol o gam-drin, trais rhywiol neu ddomestig yn y sioe. Os oes angen rhagor o wybodaeth a chymorth ar bobl, caiff cymorth ei gynnig o amgylch y perfformiad ac mewn lleoliadau.

Yn dilyn y perfformiad, bydd Sgwrs Ôl-Sioe a chefnogir gan New Pathways, un o’r asiantaethau mwyaf yng Nghymru sy’n darparu cymorth am ddim i bobl ifanc ac oedolion sydd wedi’u heffeithio gan drais neu gam-drin rhywiol.

Bydd How To Be Well In A Word That Is Sick yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Iau 22 Mehefin am 7.30pm. Tocynnau’n £14 / Consesiwn: £10. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.