Holi ac Ateb - Iphigenia yn Sblot

Roedden ni eisiau dod i adnabod Seren Hamilton sy'n chwarae Effie ychydig yn well. Dyma beth oedd ganddi i’w ddweud am ei chymeriad a’r ddrama Gymraeg un fenyw ‘Iphigenia Yn Sblot’ a fydd yn ymweld â Theatr y Torch nos Fercher 18 Medi.

Dyweda ychydig wrthym am dy gymeriad, Effie.

Mae Effie yn rhywun mae pawb yn ‘nabod. Falle chi 'di gweld hi mas ar y stryd, yn yr ysgol, yn y clwb yn yfed gyda ffrindiau, neu falle eich bod chi wedi bod yn Effie eich hun. Tu mewn, mae hi'n fenyw llawn pŵer ond yn dioddef o bobl yn barnu'r hyn maen nhw’n gweld ar y tu fas.

Dyweda tamaid am y ddrama.

Cafodd y ddrama ei chynhyrchu yn 2015 yn y Sherman, cyn ymddangos yn y National Theatre, Llundain. Ers hynny, mae wedi cael ei pherfformio a’i haddasu ar draws y byd, ond y fersiwn yma yw'r tro cyntaf iddi gael ei pherfformio yn y Gymraeg. Mae'r ddrama yn delio gyda themâu o ryfel dosbarth a thoriadau yn y GIG, sy’n teimlo hyd yn oed yn fwy perthnasol nawr nag erioed.

Sut deimlad yw hi i fod yr unig actores ar lwyfan mewn sioe-un fenyw?

Gan fy mod i newydd raddio a byth wedi neud sioe fel hyn o'r blaen, roedd y syniad o berfformio mewn sioe un fenyw yn un eithaf ofnus i ddechrau i fod yn onest! Ond ers dechrau'r broses, dw i wedi dysgu cymaint amdanaf fy hun fel perfformiwr ac mae wedi bod yn 'learning curve' enfawr. Nawr, fi'n teimlo fel gallai wneud unrhyw beth.

Mewn tri gair, sut fyddet ti’n disgrifio’r ddrama?

Pwerus, torcalonnus ac angenrheidiol.

Faint o waith ymarfer wyt ti wedi ei wneud a pha mor hawdd ydyw i ddysgu a chofio’r llinellau?

Roedd gennym ni bedwar wythnos i ymarfer y sioe cyn y perfformiadau yn yr Eisteddfod, felly treulion ni lot o amser yn ymarfer yn yr ystafell ymarfer bob dydd. Ond dysgu a chofio'r llinellau oedd y peth caletaf am y broses gan fod cymaint ohonyn nhw! Roedd rhaid i fi wneud lot o waith bob nos ar ôl cyrraedd adref o’r ymarferion i wneud yn siŵr eu bod nhw’n sticio yn fy mhen, a hefyd gofyn am lot o help gan ffrindiau i neud yn siŵr fy mod i'n cael nhw'n iawn.

Pa ddarn o’r ddrama wyt ti’n ei hoffi orau?

Mae dwy ran o'r ddrama dw i'n licio eithaf lot. Mae'r olygfa pan mae Effie yn mynd i'r doctor yn lot fawr o hwyl, gan fod 'na lot o gymeriadau i chwarae. Ond ers perfformio i gynulleidfa, dw i hefyd yn hoffi'r golyga olaf oherwydd dw i'n gallu gweld wrth wynebau pobl sut mae'r ddrama wedi eu taro, a'r hyn mae'n meddwl iddyn nhw’n bersonol, a dw i'n teimlo boddhad o allu rhoi llais i gymeriad fel Effie.

Pa brofiadau arall wyt ti wedi eu cael ar lwyfan sy’n aros yn y cof?

Does gen i ddim atgofion sbesiffig ond mae gen i lot o atgofion o berfformio yn llefydd fel yr Eisteddfod pan o'n i'n fach ac mewn sioe gerdd yn Neuadd Goffa Barry. Maen nhw'n atgofion pwysig i fi oherwydd dw i jyst yn cofio bod mor hapus lan ar y llwyfan gyda fy ffrindiau ac yn caru pob eiliad! A heb y profiadau yna i gyd, byddwn ni byth wedi dewis bod yn actor.

Pa gyngor fydde ti’n rhoi i rywun sydd am fod yn actores?

Paid rhoi lan. Mae'n broffesiwn mor galed, ac weithiau mae'n teimlo fel byddwch chi byth yn cael y swydd neu'r rôl 'da chi moyn, ond peidiwch roi lan, a chael hyder yn eich hun. Triwch bod mor agored â chi'n gallu a chymryd pob cyfle sy'n dod eich ffordd, achos chi byth yn gwybod beth ddaw nesaf.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.