Holi ac ateb gyda Tim i drafod Ffrog Ddawns Belle
Wythnos nesaf, byddwn yn cyhoeddi enillydd ‘Cystadleuaeth Cynllunio Ffrog Ddawns Belle’ ar gyfer ein pantomeim Nadoligaidd o Beauty and the Beast. Mae’r beirniaid wedi bod yn brysur yn gweithio trwy eich gwaith celf gwych – gyda bron i 80 o ddyluniadau wedi’u derbyn i gyd! Fe wnaethon ni siarad â Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned, i weld sut mae popeth yn mynd….
Felly, sut aeth y gystadleuaeth?
Cawsom ymateb gwych gan ysgolion a phobl ifanc ar draws Sir Benfro a thu hwnt. Roedd yn anhygoel cyrraedd y gwaith ac agor amlen ar ôl amlen yn llawn creadigaethau ysblennydd!
Sut beth yw'r dyluniadau?
Cawsom ein syfrdanu gan y dyluniadau creadigol a llawn dychymyg a gyflwynwyd. Gallen ni fod wedi rhoi Belle mewn ffrog wahanol bob nos – yn anffodus dim ond un oedden ni wedi gallu ei dewis!
Pwy wnaeth gymryd rhan yn y gystadleuaeth?
Cawsom 76 o geisiadau gan bobl ifanc pedair i 18 oed, gydag amrywiaeth o arddulliau artistig ac amrywiaeth enfawr o ddewisiadau ffasiwn. Mae gennym ni rai Ralph Lauren a Coco Chanel y dyfodol yn ein plith!
Ble gall pobl weld y dyluniadau?
Bydd y dyluniadau i gyd yn cael eu harddangos yn ein horiel yn ystod cyfnod y Nadolig – ac mae’r ffrog ddawns buddugol i’w gweld ar Belle yn ystod pob perfformiad o Beauty and The Beast rhwng 15fed a 31ain Rhagfyr.
Sut wnes di ddewis yr enillydd a pham?
Roedd dewis yr enillydd yn anodd ac fe wnaeth gymryd amser hir. Aeth Chelsey a Kevin (cyfarwyddwr a dylunydd y pantomeim) drwy’r holl geisiadau anhygoel a dewis rhai roedden nhw’n hoff iawn o’u golwg… ac roedd yna lawer ohonyn nhw. Yn y diwedd fe wnaethant ddewis un a oedd yn adlewyrchu fersiwn ni o Belle orau.
Beth yw'r camau nesaf?
Bydd Kevin a’i dîm anhygoel o wneuthurwyr gwisgoedd yn mynd â’r dyluniad i mewn i’w gweithdy ac yn dechrau ar y dasg o drawsnewid y syniadau ar y dudalen yn realiti pantomeim ysblennydd. Byddant yn torri a lliwio ffabrig, yn gweithio allan ffyrdd i wneud rhai o rannau mwy cywrain y ffrog â llaw, ac yna'n sicrhau ei bod yn ffitio'n berffaith i'n Belle ni. Yn olaf, byddant yn ei gyrchu ac yn ei wneud yn Dywysoges yn barod ar gyfer ddawns!
Clywaf fod arddangosfa, dyweda mwy.
O’r 4ydd i’r 31ain o Ragfyr byddwn yn cymryd dros yn oriel y Torch lle bydd holl geisiadau’r gystadleuaeth yn cael eu harddangos – ac er bod y gystadleuaeth wedi dod i ben, os ydych am gynnig rhagor o ddyluniadau ar gyfer Belle yna mae croeso i chi eu cyflwyno. Byddwn yn eu harddangos ochr yn ochr â'r holl waith gwych arall.
Felly mae gwaith ar y gweill i greu'r ffrog! Rydyn ni mor gyffrous! Fedri di ddweud rhywbeth am y peth?
Mae ein gwneuthurwyr gwisgoedd gwych wrthi’n brysur yn casglu’r holl ddeunyddiau llachar a lliwgar at ei gilydd, gan fesur yr actores sy’n chwarae Belle (i wneud yn siŵr bod y ffrog yn ei ffitio’n berffaith), ac yna byddant yn dechrau ar y broses fanwl o dorri, gwnïo a phlygu er mwyn creu hud a lledrith y panto … ond ni allaf ddatgelu’r holl gyfrinachau!
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.