Helpwch ein Fonesig i Ddod o Hyd i’w Blwmers!

Mae e wedi digwydd eto! Oh nac ydy ddim! Oh ydy mae e! Mae Bonesig Pantomeim Theatr y Torch wedi colli ei blwmers ac mae’n teimlo’r oerfel! Wrth i’r cast grynhoi at ei gilydd ar gyfer noson agoriadol o Beauty and the Beast ar Ragfyr 15, mae’r Good Fairy Gertrude yn wyllt yn chwilio am ei blwmers.

Edrychwch am y cymeriad sy’n fwy na bywyd ei hun yr wythnos nesaf wrth iddi fynd ar dramp o amgylch Aberdaugleddau yn chwilio am ei blwmers. Ond ble ar wyneb y ddaear gallan nhw fod? O’r Porthladd i’r Pill, ble mae nhw’n cuddio?

Mae'r Fonesig mewn penbleth oherwydd bod ei blwmers gorau ar goll ac mae angen eich help ar Theatr y Torch i ddod o hyd iddyn nhw. I gael cyfle i ennill tocyn teulu ar gyfer Pantomeim Nadoligaidd, Beauty and the Beast Theatr y Torch, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod o hyd i’r blwmers, tynnu llun a thagio Theatr y Torch ar Facebook. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap.

Jordan Dickin yw Cynorthwyydd Gweithredol Theatr y Torch ac mae wedi bod yn helpu’r Fonesig i chwilio am ei blwmers.

“Rydym wedi chwilio ym mhob man am ei blwmers – o’r Swyddfa Docynnau i Gaffi’r Torch ac Oriel Joanna Field i’r awditoriwm, ond ofer bu ein hymdrechion. Yn amlwg, maen nhw wedi mynd ymhellach i ffwrdd a dyna pam rydyn ni wir angen eich help. Gallent fod wedi cael eu sathru dan draed neu eu chwythu i ffwrdd yn y stormydd diweddar, nid oes gennym unrhyw syniad ac mae arnom angen pobl hyfryd a pharod Sir Benfro i helpu,” meddai Jordan.

Bydd cliwiau i’w gweld ar dudalen Facebook Theatr y Torch dros yr wythnosau nesaf. Yn y cyfamser, cadwch lygaid craff o amgylch Sir Benfro – mae’n gystadleuaeth na ddylid ei cholli ac mae gwir angen ei blwmers ar y Fonesig ar gyfer y noson agoriadol!

Bydd Beauty and the Beast yn gwneud ei ffordd hudolus i lwyfan Theatr y Torch o nos Wener 15 Rhagfyr i ddydd Sul 31 Rhagfyr. Amgylchedd Hamddenol - Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr am 2pm a Pherfformiad Dehongli BSL - Dydd Mawrth 19 Rhagfyr am 6pm.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.