Help I S*xted My Boss sy’n taro’r sgrin fawr!

Mae William Hanson a Jordan North yn cyflwyno eu podlediad comedi poblogaidd, wedi’i ddarlledu’n fyw i sinemâu o’r London Palladium. Mae William yn arbenigwr moesau crand ac mae Jordan yn arbenigwr ar bopeth cyffredin, ac yn y sioe newydd sbon hon mae eu bydoedd yn gwrthdaro wrth iddyn nhw helpu gwrandawyr i lywio heriau bywyd modern.

Bydd y cynhyrchiad, sy'n seiliedig ar y podlediad a'r llyfr poblogaidd ac a ddisgrifir fel gwerthwr gorau gan y Sunday Times yn cael ei ddangos yn Theatr Torch ar nos Fawrth 14 Mai am 7.15pm. Mae’n un na ddylid ei golli gyda Maya Jama yn disgrifio ei gynnwys fel un ‘doniol’ a Scott Mills yn ei labelu fel ‘doniol ac ofnadwy ar yr un pryd’.

Mae Sexted wedi diddanu gwrandawyr o amgylch y byd, gan gronni mwy na 50 miliwn o wrandawyr dros chwe blynedd o benodau. Mae'r podlediad hefyd wedi cael ei wylio filiynau o weithiau ar-lein, gyda wynebau rheolaidd William a Jordan ar ffrydiau Instagram a TikTok. Bydd William a Jordan yn taflu pob math o gwestiynau - sut mae gofyn i'ch ffrind am y £50 yna yn ôl? Pryd mae'n iawn i rechen o flaen eich partner? A beth ddylech chi ei wneud os ydych chi wedi secstio'ch bos yn ar gam?

Ymunwch â’r bechgyn am noson yn llawn straeon chwerthinllyd ac eiliadau codi gwên. Disgwyliwch yr annisgwyl, wrth i gynulleidfaoedd ym mhobman ymwneud â’r gweithredu ar y llwyfan a rhannu eu problemau a’u penblethau gwarthus!

Bydd Help I S*xted My Boss yn cael ei dangos ar sgrin yn Theatr Torch ar nos Fawrth 14 Mai am 7.15pm. Pris tocyn: £20. O dan 26: £17. Am docynnau, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.