A OES GENNYCH CHI'R HYN I GURO'R BEAST?

Pleser gan Gynyrchiadau Rainbow Valley gyflwyno noson unigryw i fynychwyr Theatr y Torch nas gwelwyd erioed o’r blaen o ryngweithio hwyliog a heriol yng nghwmni’r atebwr cwestiynau mwyaf eiconig ar y blaned, sef Chaser, ‘The Beast’ Mark Labbett ar ITV. Caiff hyn ei gyflwyno i chi ar lwyfan am ddwy noson ar ddiwedd mis Mai gan y difyrrwr adnabyddus a darlledwr y BBC Owen Money MBE!

Felly wrth i chi ddod i adnabod y dyn tu ôl i’r myth, gyda lluniau nas gwelwyd o’r blaen, fideos a storiâu, byddwch yn dysgu sut wnaeth yr enwog atebwr cwestiynau cwis, yma yn y DU ac America, ei greu - o fywyd cynnar Mark i gyflawniadau rhyfeddol ym myd goruchafiaeth feddyliol. Yna cewch gyfle i ofyn rhai cwestiynau iddo yr ydych wedi bod eisiau eu gofyn am hir oes!

Cewch y cyfle yn ail hanner y noson i brofi eich gwybodaeth yn erbyn ‘The Beast of Knowledge’, mewn cwis rhyngweithiol gydag aelodau eraill o’r gynulleidfa a fydd yn y pen draw yn gweld un person yn sefyll.… Allai hyn fod y CHI yn ymuno gyda Mark ar y llwyfan ar gyfer ffeinal Pen Ben ar nos Sadwrn 27 Mai a nos Sul 28 Mai? A ydych chi’n ddigon clyfar i  ‘Beat the Beast!’?

Bydd pecynnau VIP cyfyngedig ar gael a fydd yn cynnwys seddi â blaenoriaeth, rhaglen swfenîr am ddim a sesiwn ‘cwrdd a chyfarch’ ar ôl y sioe gyda Mark lle gallwch chi sgwrsio’n rhydd ag ef am ei yrfa ryfeddol neu hyd yn oed ei uchder rhyfeddol! Bydd ffotograffau ac arwyddion hefyd ar gael fel gwestai VIP!

Bydd MEET AND BEAT THE BEAST yn llwyfannu yn Theatr y TorchAberdaugleddau ar nos Sadwrn 27 Mai a nos Sul 28 Mai 2023 am 7.30pm. Tocynnau: £49 VIP (Rhesi A-C) / £27.50 safonol a gellir eu harchebu o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.