HANSEL AND GRETEL - OPERA CANOLBARTH CYMRU

Bydd Opera Canolbarth Cymru yn dychwelyd i’r prif lwyfan ar daith y gwanwyn hwn gyda’u cynhyrchiad newydd o'r clasur o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan Humperdinck, Hansel a Gretel a bydd yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Iau 16 Mawrth am 7pm. Bydd y perfformiad hefyd yn cynnwys plant o Ysgol Berfformio’r Celfyddydau Limelight a fydd yn ymuno ag Opera Canolbarth Cymru ar lwyfan.

Yn seiliedig ar stori dylwyth teg y Brodyr Grimm, mae dau blentyn yn cael eu halltudio i'r goedwig hud gan eu mam lwglyd, rwystredig. Pan ddaw eu tad adref a chlywed lle mae'r plant, mae'n datgelu i'w mam wir arswyd y Wrach.Yn y cyfamser, allan yn y coed, mae’r ddau blentyn yn mynd ar goll cyn crwydro i grafangau’r Wrach sy’n benderfynol o’u pesgi a’u troi’n ddanteithion sinsir. Ar y funud olaf mae'r Wrach yn cael ei thwyllo, a datgelir mai plant sy'n aros i gael dod yn ôl yn fyw yw'r ffigyrau sinsir o amgylch tŷ'r Wrach.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd Opera Canolbarth Cymru, Jonathan Lyness mai Hansel a Gretel yw gwaith pwysicaf Humperdinck. Ychwanegodd: “ Yn wreiddiol, roedd yn osodiad syml i blant o bedair cân werin o chwedl Grimm, ymestynnodd y cyfansoddwr y gwaith i'r opera gyflawn a adwaenir heddiw. Mae byd sain y gwaith yn unigryw, yn llawn telynegiaeth gyfoethog ac apêl felodaidd sy'n clymu'r gerddoriaeth yn uniongyrchol â chanu gwerin, lle daw anturiaethau'r plant yn fyw. Cyhoeddodd y cyfansoddwr Richard Strauss bod yr opera yn gampwaith, ac ef a arweiniodd ei pherfformiad cyntaf yn 1893. Mae’r gwaith wedi bod yn un o gonglfeini tai opera ledled y byd ers hynny.”

Mae’r cynhyrchiad newydd hwn o Hansel a Gretel, y cyntaf erioed gan Opera Canolbarth Cymru, wedi’i gyfarwyddo a’i gynllunio gan Gyfarwyddwr Artistig OCC, Richard Studer. Caiff ei chanu yng nghyfieithiad Saesneg David Pountney, gyda chast o wyth o gantorion proffesiynol.

Arweinir sgôr gerddorfaol gyfoethog ac eferw Humperdinck, a berfformir gan bartner cerddorfaol OCC Ensemble Cymru, gan Jonathan Lyness sydd hefyd wedi creu trefniant cerddorfaol newydd o’r gwaith yn arbennig ar gyfer y cynhyrchiad hwn.

Bydd Hansel and Gretel yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Iau 16 Mawrth am 7pm. Tocynnau’n £22.50/ £20.50 consesiwn / £9.00 U26 ac mae’n addas ar gyfer plant 8 oed a thros. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.