Gwestai toadi-tastig yn y Torch! Pŵp! Pŵp!

Nid bob dydd mae Theatr Torch yn cael ei swyno gan gwmni llyffant byw ar gyfer un o’i chynyrchiadau. Ond fis Gorffennaf eleni, wrth i Theatr Ieuenctid y Torch berfformio Wind in the Willows, mae ond yn addas y dylai Llyffant ymddangos yn Swyddfa Docynnau Theatr Torch i bawb ei edmygu!

Wedi’i fenthyca gan Dragon Reptiles and Aquatics yn Noc Penfro, bydd ein Toad mewn golwg llawn ar gyfer y rhai sy’n mynychu cynhyrchiad Theatr Ieuenctid y Torch. Ni fydd yr amffibiad hynod ddiddorol hwn yn ymddangos ar y llwyfan ond bydd Toad of Toad Hall, ynghyd â’i gyd-gyfeillion ar lan yr afon a’r coetir – Badger, Ratty a Mole yn diddanu pawb o’r llwyfan

Rydyn ni hefyd yn darparu taflen ffeithiau ddwyieithog i bawb sy’n esbonio sut i ofalu am lyffant, beth mae’n ei fwyta a ble mae’n hoffi byw.

"PŴP PŴP! Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu'r amffibiad gwych hollol Toadi-tastig yma i'r Torch. Rydyn ni'n cadw ein bysedd yn groes nad yw'r Toad yma mor afreolus â'r un ar y llwyfan. Dewch i weld a ydyn ni wedi'i brofi'n gywir neu a fydd dau Toad yn rhydd yn y pen draw!"

Mae llyffantod, o bob math, yn boblogaidd iawn, yn enwedig yma yn Sir Benfro. Mae miloedd wedi’u gweld ar Ynys Sgomer a llawer i’w gweld ym Mae Porth Mawr yn gwneud sŵn cwarc-cwarc-cwarc.

Ac fel mae Claire Morris, perchennog Dragon Reptiles and Aquatics yn esbonio, roedd hi wrth ei bodd bod Toad yn gallu mynd ar wyliau i’w theatr leol.

“Dw i’n meddwl ei fod e’n syniad gwych. Bydd plant yn gallu uniaethu gyda’r prif gymeriad a gweld Toad yn ei fifariwm. Mae nhw wir yn amffibiaid diddorol a chyfeillgar ac mae Toad yn methu aros i deithio o Ddoc Penfro i’r Torch am ei arhosiad byr,” esboniodd Claire.

Bydd Wind in the Willows ar lwyfan Theatr Torch ar ddydd Llun 22 Gorffennaf, dydd Mawrth 23 Gorffennaf a dydd Mercher 24 Gorffennaf am 6.30pm. Pris tocyn: £10 / £8 consesiynau. Bydd y Theatr Ieuenctid yn cael cwmni Côr Cymunedol Lleisiau’r Torch. I archebu eich tocynnau neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.