Gweithiau Celf Decmon Treilliwr Stêm Aberdaugleddau y ‘Maretta’ yn Cael eu Harddangos
Roedd gan yr artist Donald Sinclair Swan FRSA (1918-2004) lawer iawn o barch at y môr. Ers yr oedd yn ifanc iawn, breuddwydiodd am longau neu byddai'n tynnu eu llun. Mae ei angerdd am ddyfnderoedd y cefnfor, ac yn enwedig Gogledd yr Iwerydd, i’w weld yn ei gasgliad o weithiau celf yn Oriel Joanna Field fis Mai eleni - y rhan fwyaf ohonynt erioed wedi’u harddangos o’r blaen.
Ganed Donald, sy'n dad i dri o blant, yn Glasgow, yn fab i Weinidog Presbyteraidd a chyn athro ysgol gynradd. Aeth i Ysgol Uwchradd Glasgow tan 1935 pan, yr oedd yn 16 oed, a chan anwybyddu'r yrfa fwy academaidd y byddai ei rieni wedi'i ffafrio, ymunodd â chwmni llongau Clan Line, gyda'r bwriad o ddilyn gyrfa yn y Llynges Fasnachol. Mae'n debyg nad oedd hyn yn syndod i'w dad, a oedd wedi treulio sawl blwyddyn dan hwyliau cyn dod yn weinidog yn Eglwys yr Alban.
Nid oedd gyrfa nad oedd ar y môr agored yn opsiwn i Donald. Roedd y môr yn ei waed, ond nid oedd y siwrnai yn hawdd fel yr eglura ei ferch, Mary:
“Ym 1938, gyda'r Ail Ryfel Byd ar y gorwel, trosglwyddodd Donald i'r Llynges Frenhinol, gan wasanaethu'n gyntaf ar HMS Barham fel cadét canolwr yr RNR. Erbyn mis Medi 1939 roedd yr Is-lefftenant Swan ar fwrdd HMS Wessex, ac yn anelu am y Western Approaches. Ym 1940 cafodd ei drosglwyddo i’r treilliwr HMT Northern Sun, y bu’n gwasanaethau arno nes iddo ddal twbercwlosis ym 1941.
“Lleihaodd y clefyd yrfa llyngesol Donald yn fyr a bu bron iawn iddo ddod â’i fywyd i ben ond, yn groes i’r disgwyl, goroesodd niwmothoracs digymell. Er hynny, cafodd ei rybuddio i beidio ag ymgymryd â gwaith corfforol caled eto.”
Ar y siwrnia hir i adferiad, penderfynodd Donald ddilyn breuddwyd ei blentyndod fel artist. Yn frasluniwr brwd, dyma oedd ei ail ddewis gyrfa ar hyd y blynyddoedd. Rhwng 1942 a 1945, derbyniodd grant cyn-filwr, ac aeth Donald i Ysgol Gelf Glasgow ac Ysgol Gelf Patrick Allan Fraser yn Hospitalfield, Arbroath gyda dau o’i diwtoriaid mwyaf dylanwadol - Hugh Crawford RSA a James Cowie RSA.
Ym 1945, aeth Donald i Lundain lle bu'n byw bywyd ansefydlog am nifer o flynyddoedd. Teithiodd rhwng y brifddinas, Glasgow ac (yn ddiweddarach) Cernyw. Amharwyd ar ei gyfnod addawol fel cynorthwy-ydd i'r peintiwr portreadau Brenhinol, James Gunn, gan daith i'r gogledd i ofalu am ei rieni sâl.
Yn dal i hel atgofion ar ôl bywyd ar y dŵr ac yn ystyried ei hun wedi gwella'n llwyr (ac angen incwm) ym 1948, arwyddodd Donald fel cymar i gwch hwylio Tafwys Carina. Roedd rheoli'r llong drom hon dan hwylio a chriw o ddau ddyn yn unig wedi ei galedu rhywfaint.
Ym 1949, gan wrando unwaith eto ar alwad y môr agored, ac yn ôl pob golwg yn teimlo’r angen i brofi ei hun i ddinistr, gadawodd yr Afon Tafwys a llofnodi fel decmon ar y Treilliwr Stêm yn Aberdaugleddau, y Maretta.
“Ymunodd â’r fflyd bysgota ar adeg pan oedd y diwydiant yn recriwtio o gartref a thramor. Roedd digonedd o bysgod a rheiny’n rhai mawr ar ôl yr Ail Ryfel Byd pan oedd llawer o dreillwyr wedi’u rheoli gan y Llynges Frenhinol ac ni chafodd stociau pysgod eu hecsbloetio ers sawl blwyddyn,” esboniodd Mary a ddaeth o hyd i sawl darn o gelf, na welwyd erioed o’r blaen, pan gliriodd eiddo ei rhieni.
“Pan wnes i ddod ar draws y paentiadau, roeddwn i’n gwybod y byddai dad wedi bod eisiau iddyn nhw gael eu harddangos yng Nghymru. Gyda’r cysylltiad ag Aberdaugleddau, dywedwyd wrthyf fod Theatr Torch yn ‘fan syfrdanol’ a gobeithio y bydd y paentiadau’n golygu rhywbeth i bobl pan fyddant yn ymweld â’r oriel. Rwy’n mawr obeithio y byddant yn atseinio gyda phobl,” ychwanegodd Mary.
Roedd cyfnod Donald yn Aberdaugleddau yn drobwynt. O “The Seaman’s Bethel, Charles St, Milford Haven, Pembrokeshire” ysgrifennodd Donald lythyr i’w hen ffrind ysgol … “As you will have guessed from my address, the old curse has got me and I’m off to sea again … this time for deep sea trawling. Hard work and good money and I hope to God it lays my ghosts for keeps …”
“… From my window I can see a destroyer anchored in the Roads where we lay ten years ago and the ghosts it all brings up are quite unbelievable, and quite beyond anything I’d expected or prepared for …Still – hard work and the Atlantic air may work wonders …”
Mae’n ymddangos bod Môr yr Iwerydd wedi ateb “ysbrydion” Donald. Yn y 1950au, ac yntau bellach yn gwbl ymroddedig i gelf, ymsefydlodd yng Nghernyw lle priododd ei gyd-fyfyriwr o Ysgol Gelf Penzance, y ferch leol, Elizabeth Lane. Fe wnaeth y cwpl yna fagu eu teulu mewn bwthyn ger St Ives.
Cafodd Aberdaugleddau ddylanwad pwerus ar gelf Donald. Parhaodd i ddarlunio trwy gydol ei amser fel decmon ar dreilliwr a daeth yn fedrus wrth ymrwymo'n gyflym i bapur, delweddau a drama bywyd ar y môr. Yn hwyrach, fel arlunydd morol, ymfalchïai mewn portreadu’r môr yn gywir yn ei holl hwyliau. Ym 1969, cyflwynodd arddangosfa unigol o baentiadau ar fwrdd y Cutty Sark yn Greenwich i nodi canmlwyddiant y llong. Dilynodd comisiynau morol eraill, a oedd yn cynnwys y Mayflower, HMS Bounty a HMS Endeavour. Dewiswyd ei baentiad o'r cwch hwylio Suhaili gan ei berchennog, Syr Robin Knox Johnson, a hwyliodd o amgylch y byd. Pan ddychwelodd Donald i'r Alban gyda'i deulu ym 1972 parhaodd y thema forwrol mewn paentiadau o stemars padlo Clyde a morluniau.
Roedd gallu Donald i dynnu llun symudol yn gyflym hefyd yn amhrisiadwy wrth baentio portreadau o fywyd – yn enwedig plant ac oedolion aflonydd. Roedd yn braslunio pobl yn gyson, fel yr ysgrifennodd o The Bethel, wrth aros i gofrestru ar gyfer y treilliwr... “At the moment I’m earning my keep very nicely by drawing people …”
Roedd teulu Donald ei hun yn aml yn eisteddwyr er mwyn iddo ymarfer rhwng comisiynau. “Time and Family,” ac arddangoswyd ei hanes teuluol mewn portreadau, yn ymestyn dros 40 mlynedd a thair cenhedlaeth yn y pen draw, sawl tro rhwng 1980 a 2001, yn yr Alban a Chernyw.
Roedd cyhyredd elinoedd ei dreilliwr hefyd yn fuddiol i Donald pan, fel crochenydd, gwnaeth fywoliaeth yn taflu dwsinau o botiau y dydd i gadw stoc dda yn siop y teulu. Hyfforddodd Leach grochenwyr, a sefydlodd Donald ac Elizabeth Grochendy Castle-an-Dinas yng Nghernyw ac yna Crochendy Isle of Cumbrae yn yr Alban i ddarparu eu hincwm bara menyn.
Dychwelodd Donald ac Elizabeth i Gernyw yn 2000, lle parhaodd Donald i beintio nes nad oedd bellach yn gallu gwneud hynny'n gorfforol. Anfonwyd ei ddau bortread olaf o blant ei nai i Ganada fis cyn ei farwolaeth ym mis Tachwedd 2004. Parhaodd Elizabeth hefyd i beintio a bu farw yn 2021.
Dyma'r tro cyntaf i'r rhan fwyaf o'r gweithiau celf hyn gael eu harddangos. Daliodd Donald ei afael arnynt am dros 50 mlynedd ac, yn fuan cyn ei farwolaeth, cyflwynodd hwy a phenderfynodd eu bod o ryw rinwedd fel cofnod hanesyddol. Gosodwyd hwy mewn fframiau.
Mae'r casgliad yn cynnwys rhai darluniau argraffiadol iawn, yn ogystal â dyfrlliwiau a thri phaentiad olew, yr olaf wedi'u cwblhau ar ôl iddo adael Aberdaugleddau. Mae rhai paentiadau yn cynnwys enwau treillwyr eraill a hefyd aelodau eraill o'r criw. Mae caledi eithafol y ffordd hon o fyw i'w weld yn arbennig o dda mewn darluniau rhydd o'r criw yn casglu’r rhwydi mewn môr gwyllt; a lludded llwyr y dynion yn cael eu gwthio i’w terfynau corfforol mewn darlun minimalaidd o’r enw “Up Trawl, Ballet of Sleeping Deckies”.
Tueddai Donald i gofnodi bywyd yn ei lyfrau braslunio fel y gallai rhoi mewn dyddiadur: mae’r delweddau hyn yn gofnod o, ac yn dyst i, ffordd galed iawn o fyw a’r rhai oedd yn ei byw, ac yr oedd ganddo barch dwfn a pharhaol tuag atynt.
Bydd y paentiadau gan Donald Sinclair Swan FRSA yn cael eu harddangos yn Theatr Torch drwy gydol mis Mai yn ystod oriau agor y Swyddfa Docynnau. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Torch www.torchtheatre.co.uk, neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.