GWEITHGAREDDAU AM DDIM I’R TEULU YN THEATR Y TORCH YR HANNER TYMOR HWN

Mae'r dyddiadau wedi'u rhyddhau ar gyfer y gweithgareddau am ddim i'r teulu yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau yr hanner tymor hwn. Gyda’r argyfwng costau byw yn effeithio ar y rhan fwyaf o deuluoedd ac yn dilyn pandemig covid, mae Theatr y Torch yn falch iawn ei bod yn gallu cynnig gweithgareddau am ddim i bawb.

Fel rhan o ddigwyddiadau Lle Cynnes a gynhelir rhwng nawr a diwedd mis Mawrth, diolch i arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bydd y gweithgareddau teuluol yr hanner tymor hwn yn apelio.

Mae Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn y Torch yn awyddus i groesawu wynebau hen a newydd i roi cynnig ar rai gweithgareddau newydd.

Meddai Tim: “Mae croeso i bob aelod o'r teulu fynychu. Ewch ati i symud a bod yn egnïol gyda'n sesiynau Zumba gwych neu cymrwch ran mewn gweithgaredd drama Cymreig. Mae sesiwn celf a chrefft hefyd fel rhan o gynhyrchiad The Three Little Pigs yma yn y Torch ar ddydd Sadwrn 17 Chwefror am 1pm a 3pm lle gall teuluoedd wneud ychydig o gelf cyn prynu tocynnau i weld y sioe a chael amser oinc-tastig!”

Digwyddiadau: Dydd Llun 12 Chwefror am 11.00am, dydd Mercher 14 Chwefror am 11.30am a dydd Gwener 16 Chwefror am 11.00am – Zumba i’r Teulu gyda Marcela; Dydd Gwener (amser i’w gadarnhau) Gweithgaredd Drama Cymraeg i’r Teulu; Dydd Sadwrn 17 am 1pm - 4pm Gweithgaredd crefft yn ymwneud â'r Tri Mochyn Bach yng nghwmni Dylunydd Theatr.

I archebu eich lle ar unrhyw un o'r gweithgareddau hyn, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torch theatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.