Gweithdai Adrodd Straeon Theatrig i Fenywod

Ydych chi'n fenyw? Ydych chi'n 65 oed a thros? Ydych chi am i eraill glywed eich stori? Yna ymunwch â ni yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau y Chwefror a Mawrth yma ar gyfer Gweithdai Adrodd Straeon Theatrig wedi eu harwain gan y cwmni theatr enwog rhyngwladol, Complicité. Mae’r gweithdai RHAD AC AM DDIM yn agored i bob menyw yn y grŵp oedran hwn ac anogir y rheini heb brofiad blaenorol yn y celfyddydau perfformio i ymuno.

Mae’r prosiect hwn yn archwilio themâu anweledigrwydd a gwrthryfel gan ganolbwyntio ar fenywod sy’n rhwystredig gan gyflwr y byd yr ydym ynddo ac sydd am i’w lleisiau a’u barn gael eu clywed. Yn seiliedig ar symud ac adrodd straeon gyda llawer o waith grŵp, mae Complicité yn edrych i weithio gyda chwech i 10 o fenywod mewn grŵp - felly mae archebu lle yn hanfodol.

Drwy gydol y pedair sesiwn (a gynhelir yn wythnosol ar fore dydd Iau) bydd Complicité yn helpu i ddod â’ch straeon i’r llwyfan. Bydd y sesiynau'n cael eu harwain trwy gyfrwng y Saesneg, er hynny, anogir gwaith grŵp yn y Gymraeg.

Bydd y gweithdai hyn yn groesawgar iawn ac yn debyg i Lle Cynnes yn Theatr y Torch, sef rhaglen newydd sbon o ddigwyddiadau rhad ac am ddim sy’n digwydd ym mis Ionawr tan fis Mawrth, gan gynnwys ioga cadair, drama a chelf gyda lleoedd yn llenwi'n gyflym.

Dywedodd Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned:

“Rydyn ni’n gwybod bod aelodau hŷn ein cymuned wedi cael eu heffeithio’n anghymesur gan bandemig COVID-19 a’r argyfwng costau byw. Gobeithiwn y bydd y Gweithdai Adrodd Straeon Theatrig creadigol hyn a Lle Cynnes yn cynnig dihangfa o ddyddiau oer y gaeaf ac yn eich galluogi i gael y cyfle i fod yn greadigol yn ogystal â phrofi brand lletygarwch gwirioneddol unigryw Theatr y Torch.”

Ychwanegodd Rima Dodd o Complicité:

“Rydym mor falch o fod yn mynd â’n prosiect Rebel Voices i Gymru ac i fod yn bartner gyda Theatr y Torch i gyrraedd eu cymuned. Mae gwaith ymgysylltu Complicité yn ffocysu ar ddathlu a meithrin creadigrwydd y cyfranogwyr ac ni allwn aros i glywed y straeon a'r safbwyntiau a rennir yn yr ystafell, a gweithio gyda'r grŵp i roi bywyd theatrig iddyn nhw."

Cynhelir Gweithdy Adrodd Straeon Theatrig Complicité yn Theatr y Torch ddydd Iau 29 Chwefror rhwng 12-2pm gyda sesiynau gweithdy ar ddydd Iau 7, 14 a 21 Mawrth o 12-3pm. Mae mynediad am ddim, ond mae archebu lle yn hanfodol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.