FFILM NODWEDD O GRAV I'W DANGOS AR S4C

Mae cynhyrchiad Gwobrwyedig Theatr y Torch o Grav wedi ei addasu ar gyfer teledu fel ffilm nodwedd a chaiff ei ddangos ar S4C nos Sul yma. Dyma bennod anhygoel arall yn nhaith Grav, taith sydd wedi dal calonnau a meddyliau cynulleidfaoedd theatr a chefnogwyr rygbi fel ei gilydd ers iddi gamu i'r llwyfan yn 2015. 

Mae ffilm S4C yn talu teyrnged i fywyd ac amserau yr arwr Rygbi o Gymru a'r eicon diwylliannol, Ray Gravell, a chaiff ei dangos ar beth fyddai wedi bod yn ben-blwydd Ray yn 70 mlwydd oed. Mae’r ffilm, sydd wedi ei chyfarwyddo gan Marc Evans (The Pembrokeshire MurdersManhunt ac Y Bomiwr a’r Tywysog), wedi ei lleoli ar ddrama lwyfan, wedi ei hysgrifennu gan y dramodydd o Gymru Owen Thomas, a wnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn Theatr y Torch yn Aberdaugleddau yn 2015. Mae Owen ochr yn ochr â Chyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch, Peter Doran, (sydd hefyd yn cyfarwyddo’r ddrama lwyfan) wedi bod yn rhan y tu ôl i’r llenni yn natblygiad y ffilm. Mae Gareth J Bale, sydd wedi chwarae Grav ar y llwyfan mewn dros 100 o berfformiadau yn parhau â rôl Grav ar y sgrin. 

Meddai Gareth J Bale:

“Mae yna elfennau o hapusrwydd a thristwch yn y ddrama, dyna sy’n ei gwneud mor arbennig. Fe allech chi ddychmygu Grav yn ei ddweud ei hun, bod yna rai chwaraewyr a oedd yn gwisgo'r crys coch a oedd yn well nag ef - dim llawer, ond ychydig. Ond o ran straeon eu bywyd, does dim cymaint i’w ddweud, ac yn sicr roedd Grav yn rhywun a oedd yn gwisgo ei galon ar ei lawes. Mae'r ddrama'n edrych ar rai eiliadau trist, eiliadau a gafodd effaith enfawr arno. Ond rydyn ni'n dathlu ei fywyd hefyd ac mae yna lawer o gomedi yno. Roedd uchafbwyntiau ac amserau tawel, ond dyna pwy ydoedd Ray o'r Mynydd.”

Ers 2015, mae Grav wedi teithio Cymru bump o weithiau, wedi ennill gwobrau yn yr Edinburgh Fringe a Gwobrau Wales Theatre, wedi ei chwarae ym mhentref cartref Ray o Mynyddygarreg, agorodd Gwpan Rygbi’r Byd yn 2015, ac, yn 2018 cafodd ei pherffomrio yn Efrog Newydd a Washington DC. Yn 2019, gwerthwyd pob tocyn o Grav dros bum noson yn Theatr Hope, Llundain, y tro cyntaf i’r ddrama i gael ei chwarae ym mhrifddinas Lloegr.

Cyhoeddwyd sgript yr awdur Owen Thomas yn 2016 ac erbyn hyn mae’r degau o filoedd wedi gweld y sioe, gan gynnwys nifer o ffrindiau tîm a ar arwyr rygbi Ray: Syr Gareth Edwards, Phil Bennett, Delme Thomas, Gareth Jenkins, Scott Hastings, Jim Renwick, Rupert Moon a JPR Williams, a phob un ohonynt wedi rhoi eu sêl bendith.

Mae Grav yn cael ei ystyried yn eang fel y ddrama a ysbrydolodd dîm Rygbi Cymru i ennill Pencampwriaeth 6 Gwlad Guiness i Ddynion yn 2019, ar ôl cael ei pherfformio’n breifat i dîm Cymru a staff hyfforddi gan gynnwys Warren Gatland yn yr ystafell wisgo oddi cartref yn Stadiwm y Principality cyn eu buddugoliaeth enwog dros Loegr. Roedd y ddrama i fod i ymweld â De Affrica yn ystod haf 2021 ochr yn ochr â thaith Llewod Prydain ac Iwerddon ond yn anffodus cafodd ei gohirio oherwydd pandemig byd-eang Covid.

Ychwanegodd Peter Doran:

“Dylai'r ddrama fod wedi teitiho i Dde Affrica yr haf hwn, yn ystod taith Llewod Prydain ac Iwerddon ond yn anffodus bu’n rhaid canslo hynny oherwydd Covid; er hynny, doedd neb yn siomedig am hir oherwydd yn sydyn cawsom ganiatâd i greu addasiad o'r ddrama ar y sgrin. Roeddem yn glir iawn o’r dechrau bod yn rhaid i Owen wneud yr addasiad sgript a’r Gareth chwarae rôl sgrin, dyma hefyd oedd dymuniad gwraig Grav Mari a’r merched Manon a Gwennan. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'n addasu ond mae'n bennod arall ym mywyd y darn anhygoel hwn o theatr.”

Bydd Grav yn cael ei dangos am 9pm ar ddydd Sul 12 Medi ar S4C. Bydd yn Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg ar gael. Bydd hefyd ar gael yn ôl y galw trwy S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.