Cwmni Theatr Torch sy’n cyflwyno: GRAV Gan Owen Thomas Cyfarwyddwyd gan Peter Doran yn serennu Gareth J Bale

GRAV – DATHLIAD 10fed PEN-BLWYDD A’R 200fed PERFFORMIAD

Gŵr â bywyd yn llawn straeon sy’n haeddu cael eu clywed unwaith eto….

Yn dilyn deng mlynedd anhygoel o deithio Cymru a’r byd, gan gynnwys perfformiadau yn Efrog Newydd, Washington DC ac Adelaide, mae’n bleser gan Theatr Torch ddod â stori Ray Gravell – ‘Grav’ i Aberdaugleddau unwaith eto o ddydd Mercher 9 Hydref. Yn ystod y rhediad cyfyngedig hwn bydd y sioe yn cyrraedd ei 200fed dathliad mewn perfformiad dathlu arbennig ar ddydd Sadwrn 12 Hydref.

Mae Gareth J Bale yn ail-greu rôl Grav yn y sioe un-dyn hynod hon sy’n archwilio bywyd ac amserau un o feibion ​​anwylaf Cymru, y chwaraewr rygbi rhyngwladol, actor, gŵr, tad a’r eicon diwylliannol Ray Gravell.

Bydd cyn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Torch, Peter Doran, yn dychwelyd i’r Theatr i’w groesawu ar gyfer y cynhyrchiad bytholwyrdd hwn.

Dywedodd: “Grav – y sioe sy’n gwrthod mynd i ffwrdd! Er nad wyf wedi mynd drwy’r ffigurau, mae’n rhaid ei bod wedi’i gweld gan ymhell dros 10,000 o bobl. Yn fy 40 mlynedd o weithio ym myd theatr, dw i erioed wedi gweithio ar sioe gyda chymaint o apêl yn rygnwladol. Os nad ydych wedi ei gweld, dewch i weld beth yw’r holl drafod – ni fyddwch yn difaru, gallaf eich sicrhau.”

Meddai Gareth J Bale, wrth ailafael yn y brif rôl:

“Rwy’n falch iawn o fod yn ôl gyda Grav. Mae’n sioe sy’n agos at fy nghalon ac er fy mod wedi ei pherfformio droeon, mae bob amser yn anrhydedd chwarae Ray ac mae’n rhywbeth rwy’n hynod falch ohono. Does dim llawer o ddramâu yn cael eu perfformio 200 o weithiau ond mae’r ddrama hon wedi tyfu a thyfu ers y perfformiad cyntaf. Mae Grav yn stori ryngwladol.”

Ysgrifennwyd cynhyrchiad gwreiddiol Theatr Torch gyda balchder yng Nghymru gyda thîm creadigol o Gymru. Mae’r cynhyrchiad wedi mynd ymlaen i ennill gwobrau lu ar draws y byd, gan gysylltu â chynulleidfaoedd rhyngwladol p’un a ydyn nhw’n gefnogwyr rygbi ai peidio.

Ychwanegodd Gareth: “Rydyn ni wedi ymweld â llawer o theatrau gwych sy'n dal llawer o atgofion hapus i mi. Dim mwy felly na Theatr Torch, lle byddwn yn gorffen y rhan hon o'r daith ar 12 Hydref. Gorllewin yw'r Gorau!'

Yn chwaraewr rygbi hynod uchel ei barch, ar ôl cynrychioli Cymru a’r Llewod Prydeinig ar draws y byd, roedd Grav yn eicon Cymreig ar y cae rygbi ac oddi arno: dyn â bywyd yn llawn straeon sy’n haeddu cael eu clywed unwaith eto…

Mae Grav yn sioe un-dyn hynod ysbrydoledig a chalonogol ac mae wedi cael canmoliaeth unfrydol am ei chynhyrchiad ‘rhyfeddol’ ac fel ‘teyrnged addas i arwr rygbi’. Yn 2016, enillodd Grav y Cynhyrchiad Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2016 – yr unig wobr y pleidleisiwyd amdani gan y cyhoedd. Enwebwyd y ddrama hefyd am yr Actor Gorau (Gareth J Bale), y Cyfarwyddwr Gorau (Peter Doran) a’r Dramodydd Gorau (Owen Thomas).

Amserau’r sioeau yn Theatr Torch: Dydd Mercher 9 Hydref am 7:30pm. Dydd Iau 10 Hydref am 2:30pm a 7:30pm, dydd Gwener 11 Hydref am 7:30pm a dydd Sadwrn 12 Hydref (Prif Dŷ) am 7:30pm. Prisiau tocynnau: Dydd Mercher i Ddydd Gwener: £16.50. Dydd Sadwrn: (Dathliad 200fed Cap): £25.

I archebu eich tocynnau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i https://www.torchtheatre.co.uk/cy/beth-sydd-ymlaen/theatr/ 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.