GRAV AC ANGEL - SIOEAU RHAGOLWG YR EDINBURGH FRINGE

Mae Theatr y Torch yn Aberdaugleddau yn gyffrous i fod yn cynnig dau gynhyrchiad unigryw, arobryn a gwahanol iawn yng Ngŵyl Edinburgh Fringe eleni, gan chwifio’r faner ar gyfer drama a gynhyrchwyd yng Nghymru. Cyn rhediadau llawn trwy gydol mis Awst yn y Fringe eleni – bydd Grav gan Owen Thomas ac Angel gan Henry Naylor yn cael eu llwyfannu ar 29 a 30 Gorffennaf yn Theatr y Torch yn y drefn honno gan roi cyfle arall i bobl leol yn Sir Benfro weld y dramâu effaith uchel hyn.

Mae Grav yn dychwelyd i'r Fringe yn dilyn rhediad lle gwerthwyd pob tocyn yn 2015 ac ar ôl mwy na 100 o ddyddiadau ar daith yn y blynyddoedd rhwng hynny. Wedi’i hysgrifennu gan Owen Thomas, a’i chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig y Torch, Peter Doran ac yn serennu Gareth John Bale, archwilia Grav fywyd ac amserau un o feibion ​​annwyl a mwyaf rhyfeddol Cymru, Ray Gravell.

Yn chwaraewr rygbi uchel ei barch, ar ôl cynrychioli Cymru a’r Llewod Prydeinig ar draws y byd, roedd Grav yn eicon Cymreig ar y cae rygbi ac oddi arno: actor, eicon diwylliannol, tad, gŵr, dyn â bywyd yn orlawn o straeon sy’n haeddu cael eu clywed unwaith eto…

Sioe un dyn yw Grav sy’n wirioneddol ysbrydoledig a thwymgalon, ac mae wedi mwynhau canmoliaeth feirniadol, gan gynnwys ennill Gwobr Laurel am ei chynhyrchiad ‘rhyfeddol’ ac fel ‘teyrnged addas i arwr rygbi’.

Mae gan stori gyffredinol y ddrama apêl eang. Mae teithiau blaenorol yn cynnwys theatrau yn Efrog Newydd, Llundain a Washington. Perfformiwyd Grav hefyd yn Stadiwm Principality i Dîm Rygbi Dynion Cymru ar drothwy eu gêm agoriadol yn erbyn Lloegr yn 2019. Mae’r perfformiad hwn yn cael ei ystyried yn eang fel yr ysbrydoliaeth y tu ôl i ymgyrch Cymru’r Gamp Lawn y flwyddyn honno.

Angel

Mae’r cynhyrchiad newydd hwn o Angel gan Theatr y Torch yn mynd â’r stori rymus a ffrwydrol yn ôl i’r Fringe lle ymddangoswyd yn gyntaf yn 2016. Wedi’i ysgrifennu gan y dramodydd clodwiw Henry Naylor, Angel yw stori chwedlonol Rehana; brwydr ddewr un fenyw yn erbyn bygythiad dirfodol i’w thir a’i phobl. Caiff y ddrama Angel hefyd ei chyfarwyddo gan Peter Doran ac mae’n serennu Yasemin Özdemir. Dechreuodd Yasemin ei gyrfa actio yma yn Theatr Ieuenctid y Torch.

Yn 2014 roedd teuluoedd Cwrdaidd yn ffoi o Kobane i osgoi ymosodiad anochel ISIS. Arhosodd Rehana i ymladd ac amddiffyn ei thref; fel saethwr, honnir iddi ladd mwy na 100 o ymladdwyr ISIS. Mae ymgnawdoliadau blaenorol o Angel wedi cael eu gweld ar draws y byd i ganmoliaeth fawr gan feirniaid, gan ennill gwobrau mewn nifer o wyliau rhyngwladol. Mae’r cynhyrchiad newydd hwn gan Theatr y Torch yn sicr o aros gyda chi ymhell ar ôl i’r sioe ddod i ben.

Caiff Grav ac Angel eu cyfarwyddo gan Peter Doran, Cyfarwyddwr Artistig arobryn Theatr y Torch. Bydd Peter yn ymddeol ar ddiwedd 2022 a hynny yn dilyn 25 mlynedd yn y rôl.

Wrth drafod Grav ac Angel yn dychwelyd i’r Fringe, meddai Peter:

“Dros y ddeng mlynedd diwethaf, mae’r Torch wedi bod yn ymwelydd cyson â’r Edinburgh Fringe. Mae The Fringe yn rhoi cyfle i ni weld cynulleidfa lawer ehangach yn ein gwaith a chael ei weld ochr yn ochr â gwaith o safon ryngwladol. Mae mynd ag Angel Grav i’r Fringe yn helpu i ddangos amrywiaeth ac ystod ein gwaith yma yn y Torch.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Torch, Benjamin Lloyd:

“Rydym wrth ein bodd ac yn falch iawn o ddod â’r ddwy ddrama wych yma i Gaeredin eleni. Mae Grav, cynhyrchiad clasurol y Torch a’n fersiwn newydd, effaith uchel o Angel yn sicr o fod yn ysgogol ac yn cynnwys cynulleidfaoedd amrywiol. Mae’r ddwy ddrama yma’n rhan bwysig o’n tymor dathlu yma yn y Torch wrth i ni baratoi i ffarwelio â Peter Doran sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig breuddwydiol ers dros 25 mlynedd ac i nodi ein 45 mlynedd fel canolfan ddiwylliannol Celfyddydau yng ngorllewin Cymru. Bydd gan ein Cyfarwyddwr Artistig newydd esgidiau mawr i’w llenwi ac mae dwy sioe yn y Fringe yn ffordd wych o gymeradwyo ac arddangos cyfraniad Peter i’r Torch.”

Gellir prynu tocynnau ar gyfer Grav ac Angel yn y Torch ar-lein yma neu fesul y Swyddfa Docynnau trwy ffonio 01646 695267 neu mewn person rhwng 10.00am - 8.00pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn a dydd Sul - 1 awr cyn dechrau’r digwyddiad - 8:00pm.

Nodwch os gwelwch yn dda - Mae Angel yn cynnwys iaith gref a golygfeydd trallodus a all fod yn anghyfforddus i rai. Argymhellir y Cynhyrchiad hwn ar gyfer y rhai sy’n 14 oed a hŷn.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.