Llwyddiant Euraidd Jac!

Mae'r aros drosodd o'r diwedd! Mae’n bleser gan Theatr Torch gyhoeddi mai Jac, disgybl 11 oed o Ysgol Uwchradd Hwlffordd, yw enillydd y gystadleuaeth dylunio Gwrthrych Aur ar gyfer pantomeim ysblennydd Jack and the Beanstalk eleni. Gwahoddwyd pobl ifanc o bob rhan o orllewin Cymru i ddylunio gwrthrych amhrisiadwy gwych na ellid ond dod o hyd iddo yn Ystafell Aur y Cawr. Gyda dros 150 o geisiadau ar draws pob ystod oedran, Jac sydd wedi’i goroni’n enillydd euraidd.

Roedd y beirniaid wrth eu bodd gyda chynlluniau fel sanau drewllyd, cacennau caws bythol, esgidiau pêl-droed disglair a phili-pala pefriog, ond roedd cynllun Jac ar gyfer esgidiau croc aur anferthol droedfedd uwchlaw’r gweddill! Llwyddodd Theatr Torch i gael sgwrs gyda'r enillydd teilwng i weld sut deimlad yw cael eich coroni'n bencampwr.

“Roeddwn i’n hapus iawn ac yn methu credu fy mod i wedi ennill. Rwy'n gyffrous i weld fy ‘sgidiau croc mewn maint mawr iawn! Mae gen i grocs ac roeddwn ni’n eu gwisgo pan oeddwn i'n meddwl beth allwn i ei greu. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddoniol eu gweld mewn maint enfawr,” meddai Jac wrth ei fodd.

Ychwanegodd: “Rwy'n meddwl mai grym hud y crocs ddylai fod i guddio arogl traed drewllyd iawn, felly maen nhw bob amser yn arogli'n braf. Rwy’n mynd i’r pantomeim bob blwyddyn felly ni allaf aros i weld fy syniad ynddo.”

Meddai Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn y Torch:

"Diolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Pleser pur oedd derbyn y ceisiadau gwych gan bobl ifanc ar draws y sir. Cawsom ein rhyfeddu'n fawr gan yr holl ddyluniadau hynod ddychmygus, lliwgar a phefriol. Er hynny, anodd oedd dod i benderfyniad a wnaethpwyd gan Kevin ein dylunydd, a Chelsey ein cyfarwyddwr. Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi Jac fel ein enillydd cystadleuaeth dylunio 2024. Allwn ni ddim ag aros i weld ein Jack yn ceisio achub croc Jac o Ystafell Aur y Cawr. Ac i bawb sy’n chwilfrydig nid yw Jac yn perthyn i’n Jack ni!”

Mae'r ail orau ym mhob categori fel a ganlyn: Dan 5: Gwilym a Lucie - y ddau wedi dylunio sanau drewllyd bendigedig! 5 i 11: Nell - a greodd pili-pala pefriog hardd. 11- 18 - Jayden - a anfonodd chwiban aur ogoneddus o bwerus atom sydd, pan fyddwch chi'n ei chwythu, yn dweud "Na."

Gan ddod i glo meddai Tim: “Os ydych chi am weld y dyluniad buddugol mewn bywyd go iawn yna dewch draw i'r Torch a gweld ein pantomeim sydd ar ein llwyfan trwy gydol mis Rhagfyr! A thra byddwch chi yma edrychwch ar yr holl gynigion eraill i’r gystadleuaeth a fydd yn cael eu harddangos yn ein horiel.”

Bydd Jack and the Beanstalk yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Gwener 13 Rhag – ddydd Sul 29 Rhagfyr 2024 gyda pherfformiadau prynahwn a gyda’r hwyr. Pris tocynnau: £23.50 | £19.50 Cons | £75.00 Teulu. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol ar ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad BSL – nos Fawrth 17 Rhagfyr am 6pm.

I archebu eich tocynnau neu am fwy o fanylion, cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.