Socs Drewllyd a Phili-Pala Disglair yn Plesio'r Beirniaid!

Ar ôl derbyn record o geisiadau, sef 150 ohonyn nhw ar gyfer Cystadleuaeth Gwrthrych Aur y Cawr yn Theatr Torch ar gyfer pantomeim Jack and the Beanstalk eleni, mae’r rheiny sy’n ail-orau wedi’u datgelu! Gyda dim ond mis i fynd cyn y perfformiad cyntaf, mae'r cyffro'n cynyddu.

"Pleser pur oedd derbyn y ceisiadau gwych gan bobl ifanc ar draws y sir. Roedd y safon yn anhygoel o uchel, a hawdd byddai wedi cael pump neu chwech yn yr ail safle ym mhob grŵp oedran. Rhaid oedd gwneud rhai penderfyniadau anodd ac rydym yn gyffrous iawn o gyhoeddi mai Gwilym, Lucie, Nell a Jayden oedd yn yr ail safleoedd eleni,” meddai Tim Howe, Ieuenctid a Chymuned yma yn y Torch.

Mae'r canlyniadau fel a ganlyn:

Dan 5: Gwilym a Lucie - y ddau wedi dylunio socs drewllyd bendigedig!

5 i 11: Nell - a greodd pili-pala disglair hardd.

11- 18 - Jayden - a anfonodd chwiban aur ogoneddus o bwerus atom sydd, pan fyddwch chi'n ei chwythu, yn dweud "Na."

Gorffennodd Tim: “Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth ac os ydych am weld y dyluniadau gwych, bydd modd gwneud hynny yn ein horiel yma yn y Torch drwy gydol mis Rhagfyr.”

Bydd enillydd Cystadleuaeth Gwrthrych Aur y Cawr yn cael ei ddatgan yr wythnos nesaf ac ni allwn aros i rannu'r dyluniad buddugol gyda chi!

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.