Ceisiadau MAWR Wedi'u Derbyn Ar Gyfer Cystadleuaeth Pantomeim Nadolig Theatr Torch!

Mae record, sef 150 o geisiadau wedi dod i law ar gyfer Cystadleuaeth Gwrthrychau Aur y Cawr yn Theatr Torch, gan guro’r nifer y llynedd o 84 lle gofynnwyd i bobl ifanc ddylunio ffrog ar gyfer pantomeim Belle ar gyfer Beauty and the Beast. Mae pum ysgol yn y sir wedi anfon eu ceisiadau i mewn a llawer o unigolion gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.

Gydag ychydig llai na deufis cyn y pantomeim Nadoligaidd blynyddol yn Theatr Torch, gofynnwyd i bobl ifanc o dan 18 oed ddylunio gwrthrych euraid mawr ar gyfer castell y Cawr ar gyfer pantomeim bytholwyrdd Jack and Beanstalk.

Bydd y dyluniad buddugol, sy’n cadw pawb ar flaenau eu traed, yn un anodd i'w adeiladu fel yr eglura'r dylunydd Kevin Jenkins.

“Roeddwn i'n hoff iawn o'r ffaith ei fod yn cynnwys aur ac arian, yn ogystal â chael ei orchuddio mewn amryw o emau gwahanol, fel rhuddemau, emralltau a saffir. Roedd yr enillydd yn meddwl y byddai’n eitem berffaith i’r Cawr fod wedi’i chadw dan glo oddi wrth bawb ond hefyd yn rhywbeth a oedd ychydig yn hwyl ac yn wirion (yn union fel ein pantomeim ni!).”

Meddai Tim Howe, sy'n gyfrifol am Ieuenctid a Chymuned yn y Torch, nad yw am ddatgelu gormod cyn cyhoeddi'r enillydd:

“Bydd y tîm dylunio yn awr yn cael y dasg anodd iawn o greu’r gwrthrych aur buddugol gan na allwn brynu'r pethau hyn oddi ar y silff! Bydd ein tîm o weithwyr theatr proffesiynol gwych yn chwilota ym mhob siop er mwyn dod o hyd i’r deunydd er mwyn iddynt allu creu’r gwrthrych aur arbennig yma – a pheidiwch ag anghofio bod yn rhaid iddo fod yn ddigon mawr i’r Cawr!”

“Cawsom ein syfrdanu gan yr holl geisiadau gwych a gynigiwyd gan bobl ifanc ar draws ein sir. Mae'r dyluniadau wedi bod yn ffantastig - dyna ddychymyg sydd gan bob un ohonoch! A fedrwn ni ddim aros i roi syrpreis i’r enillydd yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf – pwy a wyr, fe allen ni fod yn curo ar eich drws cyn hir!” gorffennodd Tim.

Bydd holl ddyluniadau ‘Gwrthrychau Euraid’ yn cael eu harddangos yn Oriel Joanna Field yn Theatr Torch drwy gydol mis Rhagfyr i bawb eu gweld.

Bydd Jack and the Beanstalk yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Gwener 13 Rhagfyr - Sul 29 Rhagfyr 2024 gyda pherfformiadau prynhawn a min nos. Pris tocyn: £23.50 | £19.50 Consesiynau | £75.00 Teulu. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad BSL - Dydd Mawrth 17 Rhagfyr am 6pm.

I archebu eich tocynnau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.