Gimme! Gimme! Gimme! yn y Torch
Gafaelwch yn eich esgidiau sodlau uchel a'ch trowsus llydan ac ewch i Theatr Torch am daith yn ôl mewn amser i'r adeg pan oedd ABBA yn dominyddu'r siartiau ac yn rheoli'r tonnau awyr. Mae Thank ABBA For The Music yn ŵyl ABBA ddwyawr epig sy’n dal holl hud a chyffro un o fandiau mwyaf rhyfeddol hanes pop.
Yn seiliedig ar y grŵp pop o Sweden a ffurfiwyd yn Stockholm ym 1972 gan Agnetha Fältskog, Björn Ulvaeus, Benny Andersson, ac Anni-Frid Lyngstad, mae Abba yn un o'r grwpiau cerddorol mwyaf poblogaidd a llwyddiannus erioed ac yn un o'r actau cerdd sydd wedi gwerthu orau yn hanes cerddoriaeth boblogaidd. Gallwch ddisgwyl holl ganeuon eiconig ABBA yn cynnwys Dancing Queen, Mamma Mia, Super Trouper, Gimme! Gimme! Gimme! SOS, Waterloo, Take A Chance On Me, Voulez-Vous a nifer o rai eraill!
Yn cynnwys cast deinamig o gantorion rhagorol, coreograffi disglair a thafluniad fideo rhyngweithiol - fe'ch cynghorir i archebu'n gynnar ar gyfer yr hyn sy'n argoeli i fod yn strafagansa uchel-octan i’r rheiny sy’n caru ABBA. Gyda lleisiau gwych a harmonïau nod masnach ABBA clyfar drwyddi draw, gwisgoedd llwyfan atgynhyrchiad syfrdanol, ychydig o hiwmor Swedaidd ysgafn tafod-yn-y-boch a digon o gyfranogiad gan y gynulleidfa, rydych chi'n siŵr o gael amser gwych!
Yn ôl yr arfer, nid oes yn rhaid i chi wisgo dillad ABBA a chyfnod gwisg ffansi y 70au … ond byddai’n braf!
Mae'r sioe wedi cael pum seren gan Times a Star ac fe’I disgrifiwyd fel ‘FABBATASTIC NIGHT OUT! a rhoddwyd pum seren arall iddi gan The Sands Centre, Carlisle fel ‘THE BIGGEST PARTY WITH THE UK’S BEST ABBA TRIBUTE.’
Mae tocynnau ar gyfer Thank Abba For The Music ar nos Wener 13 Mehefin a nos Sadwrn 14 Mehefin am 7.30pm yn £25. Ewch i'r wefan am fanylion pellach www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.