BYDDWCH YN GREADIGOL YR HYDREF HWN YN THEATR Y TORCH
Mae gan Theatr y Torch, Aberdaugleddau hydref cyffrous ar y gweill gyda llawer o ffyrdd o gymryd rhan a bod yn greadigol. Ym mis Medi bydd yr holl weithgareddau rheolaidd i oedolion a phobl ifanc yn cael eu hail-lansio, yn ogystal â rhai digwyddiadau newydd i bawb gymryd rhan ynddyn nhw.
Mae'n bleser gan y Torch gyhoeddi y bydd ei chyfranogwyr theatr ieuenctid yn cymryd rhan mewn dwy raglen genedlaethol. Bydd y plant saith i 11 oed yn gweithio ar ddwy ddrama newydd wych a gomisiynwyd fel rhan o Positive Stories for Difficult Times ar y cyd â Wonder Fools, Traverse a Youth Theatre Arts Scotland. Tra bydd pobl ifanc 15 i 18 oed yn cymryd rhan yn y rhaglen National Theatre Connections ar draws y DU, sy’n cynnwys perfformio drama newydd sbon a ysgrifennwyd yn benodol ar gyfer eu grŵp oedran.
Mae Theatr Ieuenctid y Torch ar gyfer pobl ifanc rhwng saith ac 18 oed ac mae'n cyfarfod bob wythnos yn ystod y tymor. Maen nhw’n chwarae gemau, yn creu straeon, ac yn rhannu gwaith ar lwyfannau'r Torch. I nifer o’r bobl ifanc sy’n mynychu dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ymwneud â’r theatr ac mae eu hyder yn cynyddu trwy gydol yr wythnosau gan weithgareddau lle caiff eu lleisiau a’u barn eu gwerthfawrogi.
Mae’r Torch yn adnabyddus am ei gwaith gyda phobl ifanc, ond mae hefyd yn cynnig gweithgareddau gwych i oedolion yn ein cymuned hefyd.
O ddiwedd mis Medi ymlaen, bob nos Iau bydd côr Lleisiau’r Torch yn llenwi’r ystafell ymarfer gyda’u halawon bendigedig. Mae’r côr cymunedol hwn yn agored i bob lefel o brofiad ac mae’n fan lle gall pobl gael hwyl a gwneud ffrindiau newydd ochr yn ochr â datblygu eu sgiliau canu. Mae croeso bob amser i aelodau newydd, ac nid oes angen unrhyw brofiad – y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw brwdfrydedd a synnwyr o hwyl.
Yn ogystal, mae'r Torch yn cynnig cwrs byr newydd mewn ysgrifennu creadigol ar gyfer perfformio. Bydd y sesiynau bob pythefnos hyn yn cael eu cynnal ar nos Iau ac yn cael eu harwain gan dîm mewnol proffesiynol y Torch, gan helpu awduron ar bob lefel o brofiad i ddarganfod beth yw ysgrifennu ar gyfer y llwyfan.
Ac ochr yn ochr â hyn oll bydd y cyfnewid bythol boblogaidd o Ddillad yn digwydd bob deufis, ochr yn ochr â sesiynau Coffi Cymraeg misol sy’n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg ddod at ei gilydd i sgwrsio’n anffurfiol dros baned a thamaid o gacen.
Mae Theatr y Torch hefyd yn falch o fod yn ail-lansio ei darpariaethau addysg. Wrth wraidd hyn mae proses gydweithredol sy’n arwain y sector sy’n cynnig gweithdai yn ymwneud â’u cynhyrchiad arfaethedig o Private Lives, a gweithgaredd ymgysylltu newydd sbon ar gyfer eu pantomeim hudolus. Mae Ffrindiau’r Panto yn sefydlu perthynas ffrind gohebol rhwng dosbarthiadau o ysgolion lleol a'r actorion yn y cynhyrchiad.
Yn olaf, os oes gennych chi unrhyw ddarpar ddylunwyr ffasiwn yn eich tŷ, efallai yr hoffent roi cynnig ar gystadleuaeth ‘Dylunio ffrog ar gyfer Belle’ yn Theatr y Torch. Hoffai’r Tîm Creadigol weld pa gynlluniau gwych y gall pobl ifanc fyny tan 18 eu creu. Bydd un enillydd lwcus yn gweld eu dyluniad yn cael ei drawsnewid yn ffrog wirioneddol Belle ar y llwyfan ar gyfer pantomeim eleni sef Beauty and the Beast.
Goruchwylir y nifer eang hwn o gyfleoedd gan Tim Howe, sef Uwch Reolwr Theatr y Torch - Ieuenctid a Chymuned. Dim ond ers mis Ionawr y mae Tim wedi bod yn Aberdaugleddau, ac mae wedi dod ag egni a brwdfrydedd nid yn unig i Theatr y Torch ond hefyd i gymuned Sir Benfro.
“Wel, am chwe mis cyntaf! Rwy'n teimlo fy mod prin wedi cael hoe! Rydw i wedi bod ar hyd a lled y sir, yn dod i adnabod pobl, yn cyflwyno gweithdai mewn ysgolion, ac yn deall beth mae ein cymunedau ei eisiau gennym ni yma yn y Torch - ac mae cymaint mwy o bobl i gwrdd â nhw. Mae pawb rydw i wedi cyfarfod â nhw wedi rhoi cymaint o groeso i mi ac rwyf wedi yfed gormod o goffi! Ond rwy’n falch o alw Sir Benfro yn gartref i mi, ac edrychaf ymlaen at lawer mwy o brosiectau a digwyddiadau cyffrous,” meddai Tim sydd ag amserlen brysur o nawr hyd at y Nadolig.
Mae tîm Theatr y Torch yn edrych ymlaen at gwrdd â chi i gyd yn fuan iawn a dod yn greadigol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch: tim@torchtheatre.co.uk / 01646 694192.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.