BLOG RHIF. 1 - GARETH JOHN BALE

Mae’r Torch yn rhywle yr wyf bob amser yn mwynhau ymweld â hi. Mae’n theatr sy’n agos iawn at fy nghalon. Felly, roeddwn wrth fy modd pan ofynnwyd i mi ysgrifennu’r blog cyntaf ar gyfer Cwmni Theatr y Torch.

Yn gynharach eleni, cefais y fraint o gyfarwyddo yn y Torch am y tro cyntaf erioed. Roedd Carwyn yn rôl arbennig i mi. Pleser ydoedd i weithio gyda geiriau Owen Thomas unwaith eto ac fe wnaeth Tegan James jobyn hyfryd fel cynllunydd. Rhoddwyd perfformiad hynod gan Simon Nehan fel Carwyn James, ffrind ac actor yr wyf wedi ei edmygu ers tro byd. Roedd Carwyn yn ddyn cymhleth a hudol a gafodd effaith fawr ar Gymru a thu hwnt. Fe wnes i wir fwynau ymchwilio i fywyd dyn a oedd o Gefneithin a gweld Simon yn dod ag ef i fywyd mewn modd mor ystyriol ac emosiynol. Yn ôl y disgwyl, roedd y gefnogaeth gan bob adran yn y Torch yn wych. Yn ddisgwyliedig, oherwydd yr ansawdd sy'n gysylltiedig â chynyrchiadau Torch, ond yn sicr ni chymerir yn ganiataol.

Gwych oedd cael bod yn ôl yn y theatr ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd ac rwy’n ddiolchgar iawn bod pawb wedi cyd-dynnu i greu darn gwych o theatr. Gobeithiwn y bydd yn ôl yn fuan.

Ac o un chwedl am rygbi Cymru i'r llall; rwyf wrth fy modd i ddod â Grav yn ôl ar ôl hoe o dair blynedd. Mae Gŵyl Fringe Caeredin yn dathlu 75 mlynedd eleni. Mae’n ŵyl arbennig iawn ac fe fydd yn anrhydedd cael perfformio Grav yno yn ystod mis Awst yn y Gilded Balloon. Hyfryd bydd rhannu’r profiad hwnnw gyda Yasemin Özdemir a fydd yn perfformio Angel yn yr un lleoliad. Mae gan The Torch enw da iawn yn y Fringe - mae sioeau fel Who’s Afraid of Rachel Roberts, Oh Hello a Grav wedi mwynhau llwyddiant yno yn y gorffennol. Ar ôl gweld perfformiad gwych Yasemin, rwy’n sicr y bydd Angel yn gwella'r enw da hwnnw 

Yr un peth sy’n fy nharo bob tro dwi’n ymweld â’r Torch yw’r balchder mae pawb yn ei gymryd yn yr adeilad a’r cwmni. Mae hynny’n rhywbeth i fod yn falch iawn ohono ac rwy’n sicr yn ymwybodol ein bod yn cludo’r enw da hwnnw wrth i ni fynd â’n sioeau priodol i’r Alban.

Byddai’n esgeulus i mi beidio â sôn am Peter Doran wrth imi ysgrifennu am y Torch. Mae yna rai eraill sydd mewn gwell sefyllfa i ddweud wrthych am lwyddiannau Peter dros y blynyddoedd ac rwy’n siŵr y bydd llawer yn cael ei ddweud – yn haeddiannol – dros y misoedd nesaf. Cynyrchiadau o safon, teithiau cenedlaethol a rhyngwladol a datblygiad yr adeilad ei hun yw rhai o’r pethau sydd wedi digwydd o dan ei wyliadwriaeth. Nid oes neb wedi gwneud mwy i wella enw da'r Torch. Yn bersonol, dwi wrth fy modd ein bod ni'n cael y cyfle i berfformio Grav eto. Mae'n gyfarwyddwr gwych i weithio iddo a gydag ef. Mae llawer o eiliadau hapusaf fy ngyrfa wedi dod mewn ystafell ymarfer neu theatr gyda Peter. Bydd yn hyfryd creu ychydig mwy dros y misoedd nesaf. Ers i ni gydweithio am y tro cyntaf yn 2006, mae Peter wedi dod yn ffrind gwych y gellir ymddiried ynddo, a dymunaf bob hapusrwydd iddo yn ei ymddeoliad.

Cariad, Golau a Heddwch,

Gareth Bale

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.