Foreigner in My Body – Gweithdy a Sioe
Nid yw’r ffordd yr ydym yn gweld ein hunain ddim bob amser fel y mae eraill yn ein gweld. Ymunwch â’r artist symud Sara Hartel mewn gweithdy sy’n archwilio’r tensiwn rhwng hunaniaeth a chanfyddiad yma yn Theatr Torch ddydd Mercher yma ac yna sioe gwaith ar y gweill ddydd Iau gyda Foreigner in My Body.
Bydd y gweithdy gyda’r nos yn rhoi cyfle i chi ddysgu sut i ddefnyddio sain ddisgrifio’n greadigol mewn amgylchedd diogel, meithringar sy’n rhoi lle i chi archwilio’r rôl y mae rhywedd yn ei chwarae yn y ffordd rydym yn symud, a sut mae eraill yn gweld y ffordd rydym yn symud, trwy greu darn o symudiad.
Mae’r sioe ei hun, Foreigner in My Body, yn sioe waith ar y gweill sy’n archwilio’r daith drawsryweddol trwy lens croesi ffiniau. Mae’n asio syrcas, theatr gorfforol ac adrodd straeon gyda disgrifiad sain bwriadol. Stori o wrthryfel a llawenydd traws. Meddyliwch am fyrlesg diogelwch maes awyr, y carwsél bagiau o fagiau emosiynol a damwain awyren ar sidanau awyr.
Cynhelir y gweithdy nos Fercher 12 Chwefror am 7pm a’r sioe nos Iau 13 Chwefror am 7pm. Mae'r gweithdy a'r sioe yn addas ar gyfer y rhai 14+. Gall unrhyw un sy'n mynd i’r gweithdy fynd i'r perfformiad AM DDIM hefyd!
Mae tocynnau ar gyfer Foreigner in My Body yn costio £5.00. Ewch i'r wefan am ragor o fanylion am www.torchtheatre.co.uk, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.