Fiona Miller sy’n arddangos ei gwaith yn y Torch
Bydd yr artist o Benfro, Fiona Miller, yn arddangos ei gwaith yn Oriel Joanna Field yn Theatr y Torch fis Chwefror eleni. Wedi’i geni yng Nghwmbrân, ond wedi teithio’n helaeth ers yr oedd yn fabi, mae arddangosfa Fiona o’r enw ‘Phoenix Rising’ yn aileni ei hysbryd creadigol a’i dychweliad adref i Gymru.
Bydd ymwelwyr i’r arddangosfa yn cael gwledd weledol gyda gwaith celf haniaethol – acrylig ar gynfas – printiau ffotograffig hynod, ysgrifennu a hyd yn oed rhai nodiadau wedi’u curadu. Dywed Fiona – “Rwyf wrth fy modd yn cael fy nhywys drwy’r ysbrydoliaethau, y teimladau a’r defnydd o liwiau ar gyfer pob darn.”
Mae Fiona wedi cael bywyd prysur ac anarferol, gyda llawer o brofiadau o wahanol rannau o’r byd, a’r cyfan wedi ei gwneud hi’r artist creadigol y mae hi heddiw.
Dywed Fiona: “Er i mi gael fy ngeni yn y Cymoedd, dim ond am ryw wyth mis y bûm yno cyn symud i’r Dwyrain Canol (Dubai, Muscat, Oman, Libanus) ac yna symud i Gyprus ac o’r diwedd dychwelyd i’r DU yn y 70au cynnar i ddechrau addysg mewn ffordd fwy confensiynol a ‘normal’.”
Pedwerydd merch i rieni entrepreneuraidd; roedd ei thad (George McCoach) yn syrfëwr meintiau siartredig a chafodd ei ‘ddewis’ gan Sheikh yn y 60au cynnar i adael y DU a theithio, gyda’i deulu ifanc, i’r anhysbys - y Dwyrain Canol!
Ysbrydolodd rhieni Fiona ei chreadigrwydd.
Dywedodd: “Roedd fy nhad yn artist ‘hobi’ creadigol a medrus yn ei hanfod ac mae’n debyg mai ef sydd wedi rhoi’r elfen greadigol i mi. Yn anffodus, collais fy nhad pan oeddwn yn 15 mlwydd oed, ond yn ffodus, cefais fy ysbrydoli hefyd gan wylio sgiliau dylunio mewnol cain fy mam a’i gallu cynhenid i weithio gyda lliwiau, mewn ffordd amatur. Roedd hi bob amser yn gwybod os nad oedd rhywbeth yn iawn yn weledol, a byddai'n symud pethau hyd yn oed ychydig i wneud iddo edrych yn well pan oedd hi'n rhoi ein cartrefi niferus at ei gilydd mewn gwahanol wledydd. Rwyf wedi etifeddu’r ‘llygad artist’ hwn ac ni fyddaf fel arfer yn setlo nes i mi sythu’r llun hwnnw neu aildrefnu’r blodau i eistedd yn well mewn fâs!”
Yn hunanddysgedig, ffocysa gwaith Fiona ar waith celf haniaethol mewn peintio a phrintiau ffotograffig hynod fanwl; astudiaeth mewn cyfosodiad. Yn ddiweddar cafodd arddangosfa yn Eastbourne, Dwyrain Sussex, cyn symud i Gymru ym mis Ebrill y llynedd. Er hynny, dyma fydd ei harddangosfa gyntaf yma yn y Torch ac yng Nghymru.
“Mae’n teimlo’n hynod o frawychus, heriol a chyffrous i’r un graddau. Mae’n hynod o galonogol ac yn anrhydedd i gael y cyfle hwn mewn cymuned dw i ond nawr yn dod i’w hadnabod.”
Mae Fiona yn sefydlu gweithdai celf o ddechrau mis Chwefror a bydd yn mynd â chelf acrylig haniaethol i bawb sydd am roi cynnig arni.
“Byddaf yn lansio hwn cyn gynted ag y gallaf ar ôl sefydlu arddangosfa Torch. Fy ngobaith yw y gallaf sefydlu fy hun, fel yr oeddwn yn Eastbourne, fel hwylusydd celf i unrhyw un a phawb sydd am gymryd rhan. Mor aml cynigir dyfrlliw fel cyfrwng celf a dw i am ledaenu’r gair acrylig. Mae paentio acrylig yn gymaint o hwyl ac yn faddeugar iawn - cyfle gwych i gael ychydig o hwyl gyda chelf!”.
Mae Fiona yn APCCA cymwys – Ymarferydd Celf fel Therapi Person-Ganolog ac Ymarferydd NLP - Rhaglennu Niwroieithyddol.
Ychwanegodd: “Mae fy ngweithdai yn empathetig ac yn seiliedig ar y dull person-ganolog, wedi’i deilwra i’r unigolion rwy’n gweithio â nhw. Does dim byd byth yn cael ei ‘orfodi’ – sy’n trechu’r gwrthrych – mae cyflymder, gallu a pharodrwydd i fynegi trwy greadigrwydd, bob amser yn cael eu hystyried. Mae fy ngweithdai yn anrheg anhygoel – i chi, eich anwyliaid neu gydweithwyr.”
Am fwy o wybodaeth ewch i https://fionamillerart.com/. Bydd Phoenix Rising yn agor ar ddydd Sadwrn 3 Chwefror tan ddydd Iau 28 Chwefror yn ystod oriau agor y Theatr. Am fwy o wybodaeth ewch i torchtheatre.co.uk.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.